beibl.net

  • Beth wyt ti eisiau wneud?

  • Darllen ac Astudio
  • Adnoddau
  • Defnyddiau
  • Cymorth
  • Gwybodaeth
  • Ebost

Ioan

Chwilio manwl

Llyfrau Beibl.net

Chwilio manwl

Cymorth astudio



Astudio: Pwy? Pryd? Pam?

Pwy ydy’r awdur?
Yn draddodiadol mae’r efengyl hon yn cael ei chysylltu gyda Ioan, brawd Iago, un o’r deuddeg disgybl. Mae rhai’n meddwl ei fod yn amhosib i ddyn o gefndir Ioan ysgrifennu efengyl mor gyfoethog. Maen nhw’n awgrymu fod Ioan wedi defnyddio ysgrifennydd, neu fod disgybl iddo o’r un enw wedi ysgrifennu’r efengyl ar sail atgofion yr apostol. Ond mae yna dystiolaeth yn y llyfr mai Ioan yr apostol ydy’r awdur:
• Tystiolaeth llygad-dyst sydd yma.
• Dydy’r awdur ddim yn cyfeirio at y disgybl Ioan wrth ei enw o gwbl. Mae’n galw Ioan Fedyddiwr yn Ioan. Byddai unrhyw awdur arall am fanylu er mwyn gwahaniaethu rhwng Ioan Fedyddiwr a Ioan y disgybl.
• Y disgrifiad “y disgybl oedd Iesu’n ei garu’n fawr”. Ioan sy’n ffitio’r disgrifiad yma orau. Roedd o, Pedr a Iago yn ffurfio cwmni o dri oedd agosaf at Iesu.
Pysgotwr oedd Ioan yn wreiddiol, yn gweithio gyda’i frawd Iago mewn busnes teuluol llwyddiannus (yn cyflogi gweision – Marc1:20) gyda’u tad Sebedeus. Roedden nhw’n ffrindiau ac yn bartneriaid gyda dau frawd arall, Simon Pedr ac Andreas, a dyma’r pedwar gafodd eu galw gyntaf gan Iesu (Mathew 4:18). Rhoddodd Iesu y llysenw “meibion y daran” i Ioan a’i frawd achos eu bod nhw’n wyllt a byrbwyll weithiau. Ioan a Pedr drefnodd y Swper olaf (Luc 22:8) ac yn ystod y croeshoeliad gofynnodd Iesu i Ioan ofalu am ei fam (Ioan 19:26-27).
Ioan oedd un o’r cyntaf i weld y bedd gwag a chredu yn yr atgyfodiad (Ioan 20:8). Aeth ymlaen i fod yn arweinydd yn yr Eglwys Fore – mae Galatiaid 2:9 yn disgrifio Ioan, Pedr a Iago brawd Iesu fel prif arweinwyr yr eglwys yn Jerwsalem. Yn llyfr yr Actau mae Ioan gyda Pedr wrth y Fynedfa Hardd yn iacháu’r dyn cloff (Actau 3:1-11), mae’n dioddef carchar ac erledigaeth (Actau 4:1-23), ac yn cadw golwg ar waith yr eglwys ymhlith pobl Samaria (Actau 8:14-24).

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae ysgolheigion yn meddwl mai Efengyl Ioan oedd yr olaf i gael ei hysgrifennu. Y dyddiad traddodiadol ydy rhywbryd rhwng 80 a 90 O.C., ond yn ddiweddar mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu dyddiad cynharach - tua 66 O.C. efallai (Cyn dinistrio Pwll Bethesda cf.5:2, a'r deml). Mae traddodiad cynnar yn dweud bod Ioan wedi byw yn hen yn Effesus, a’i fod wedi ysgrifennu’r efengyl yno.

Pam?
Prif bwrpas Ioan ydy efengylu – yn ôl Ioan 20:30 ymlaen, mae’n disgrifio rhai “arwyddion” er mwyn i’w ddarllenwyr ddod i gredu mai Iesu ydy’r Meseia, Mab Duw, a derbyn bywyd tragwyddol. Mae’n canolbwyntio ar weinidogaeth Iesu yn Jerwsalem, ac yn pwysleisio duwdod Iesu, a’r berthynas arbennig rhwng Duw a Iesu, perthynas Tad a Mab. Mae Duw am achub y byd trwy ei Fab (Ioan 3:16).
Ond mae Ioan hefyd yn dangos fod Iesu hefyd yn ddyn, yn blino, yn dioddef syched ac yn teimlo emosiwn. Rhywbeth arall arbennig i Efengyl Ioan ydy’r gyfres o ddatganiadau “ Fi ydy….” lle mae Iesu’n defnyddio teitlau gwahanol i egluro pwy ydy o. Mae’r Ysbryd Glân yn cael lle amlwg yn Efengyl Ioan. Mae’n dangos bod gweinidogaeth Iesu i gario mlaen trwy’r Ysbryd. Wrth ddarllen Efengyl Ioan cawn ddarlun dwfn a dealltwriaeth arbennig o fywyd a gwaith Iesu.

Catrin Roberts

Pennod 6

Bwydo'r pum mil

1 Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). 2 Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld yr arwyddion gwyrthiol o iacháu pobl oedd yn sâl. 3 Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion. 4 Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau’r Iddewon) yn agos.
5 Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod tuag ato, gofynnodd i Philip, "Ble dyn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?" 6 (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu’n gwybod beth oedd e'n mynd i'w wneud).
7 Atebodd Philip, "Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!"
8 Yna dyma un o'r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, 9 "Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!"
10 Dwedodd Iesu, "Gwnewch i'r bobl eistedd." Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma’r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. 11 Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl dweud gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb cymaint ag oedd arnyn nhw eisiau.
12 Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, "Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim." 13 Felly dyma nhw'n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda’r tameidiau o'r pum torth haidd oedd heb eu bwyta.
14 Ar ôl i'r bobl weld yr arwydd gwyrthiol hwn, roedden nhw’n dweud, "Mae'n rhaid mai hwn ydy'r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i'r byd." 15 Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun.

Iesu'n cerdded ar y dŵr

16 Pan oedd hi'n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, 17 a mynd i mewn i gwch i groesi'r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi’n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. 18 Roedd y tonnau wedi dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. 19 Pan oedden nhw wedi rhwyfo ryw dair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, 20 ond meddai Iesu wrthyn nhw, "Fi ydy e; peidiwch bod ofn." 21 Yna roedden nhw’n fodlon ei dderbyn i'r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw’n anelu ati.
22 Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i'r llyn. Roedden nhw’n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. 23 Ond roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o’r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i'r Arglwydd roi diolch. 24 Pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na'i ddisgyblion chwaith, dyma nhw’n mynd i mewn i'r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.

Iesu, Bara'r Bywyd

25 Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw’n gofyn iddo, "Rabbi, pryd ddest ti yma?"
26 Atebodd Iesu, "Credwch chi fi, dych chi’n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta'r torthau a llenwi'ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. 27 Dim y math o fwyd sy’n difetha dylech chi ymdrechu i’w gael, ond y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn sy’n rhoi’r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i."
28 Felly dyma nhw’n gofyn iddo, "Beth sydd raid i ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?"
29 Atebodd Iesu, "Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon."
30 Felly dyma nhw’n gofyn iddo, "Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni'n credu ynot ti wedyn. Beth wyt ti am ei wneud? 31 Cafodd ein hynafiaid y manna i’w fwyta yn yr anialwch. Mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: 'Rhoddodd fara o'r nefoedd iddyn nhw i'w fwyta.'
32 Atebodd Iesu, "Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi; fy Nhad sy’n rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn. 33 Bara Duw ydy'r un sy'n dod i lawr o'r nefoedd ac yn rhoi bywyd i'r byd."
34 "Syr," medden nhw, "o hyn ymlaen rho'r bara hwnnw i ni."
35 Yna dyma Iesu'n datgan, "Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu. 36 Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi’n dal ddim yn credu. 37 Bydd pawb mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy'n dod ata i. 38 Dw i ddim wedi dod i lawr o'r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae'r hwn anfonodd fi eisiau. 39 A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i’n colli neb o'r rhai mae wedi eu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 40 Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i’n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf."
41 Ond dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, "Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd." 42 "Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dyn ni’n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, 'Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd'?"
43 "Stopiwch gwyno ymhlith eich gilydd," meddai Iesu. 44 "Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 45 Mae'n dweud yn ysgrifau’r Proffwydi: 'Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.' Mae pawb sy'n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i. 46 Ond does neb wedi gweld y Tad. Dim ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw sydd wedi gweld y Tad – neb arall. 47 Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu. 48 Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. 49 Er bod eich hynafiaid wedi bwyta’r manna yn yr anialwch, buon nhw farw. 50 Ond mae’r bara sy'n dod i lawr o'r nefoedd yn cael ei fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. 51 A fi, sydd wedi dod i lawr o’r nefoedd, ydy'r bara sy’n rhoi bywyd. Os ydy rhywun yn bwyta'r bara hwn bydd yn byw am byth. A’r bara dw i’n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i’r byd gael byw."
52 Dyma’r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo'n filain gyda’i gilydd. "Sut all y dyn hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?" medden nhw. 53 Dwedodd Iesu wrthyn nhw, "Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd. 54 Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 55 Oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn. 56 Mae gan y rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i berthynas agos gyda mi, ac mae gen i berthynas agos gyda nhw. 57 Yn union fel mae'r Tad byw fi a dw i’n byw o achos y Tad, felly bydd yr un sy'n bwydo arna i yn byw o'm hachos i. 58 Mae’n wahanol i’r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth."

Llawer o ddisgyblion yn troi cefn ar Iesu

59 Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd. 60 Ond ymateb llawer o'i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, "Mae'n dweud pethau rhy galed. Pwy sy'n mynd i wrando arno?"
61 Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, "Ydych chi’n mynd i droi cefn arna i? 62 Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i ble'r roeddwn i o'r blaen? 63 Ysbryd Duw sy'n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi yn dod o’r Ysbryd ac yn rhoi bywyd. 64 Ac eto mae rhai ohonoch chi yn gwrthod credu." (Roedd Iesu’n gwybod o'r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i'w fradychu e.) 65 Aeth yn ei flaen i ddweud, "Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi’r gallu iddyn nhw ddod."
66 Ar ôl hyn dyma nifer o’i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio ei ddilyn.
67 "Dych chi ddim yn mynd i adael hefyd, ydych chi?" meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl.
68 “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. 69 Dyn ni wedi dod i gredu, a dyn ni’n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw."
70 Ond yna dyma Iesu’n dweud, "Onid fi ddewisodd chi’r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi’n ddiafol!" 71 (Jwdas, mab Simon Iscariot oedd yn ei olygu, yr un oedd yn mynd i'w fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un o'r deuddeg disgybl.)