
Pwy ydy’r awdur?
Mae tystiolaeth y Testament Newydd yn gwneud i ni feddwl mai Luc, y meddyg annwyl (Colosiaid 4:14) ydy awdur yr Efengyl hon. Cenedl-ddyn (rhywun sy ddim yn Iddew) oedd Luc mae’n debyg, yr unig un o awduron y Testament Newydd oedd ddim yn Iddew. Mae’n ysgrifennu mewn Groeg graenus iawn sy’n dangos ei fod o’n ddyn dysgedig. Roedd o hefyd yn gyfarwydd hefo diwylliant a thraddodiadau Groegaidd ac Iddewig.
Daeth Luc yn ffrind i Paul a roedd o gyda Paul yr ail a’r drydedd daith genhadol i wlad Groeg a Twrci (Actau 16 - 20), ac ar y daith i Jerwsalem (Actau 21). Aeth Luc gyda Paul ar ei daith olaf i Rufain hefyd (Actau 27-28), pan oedd Paul i ymddangos gerbron yr Uchel Lys yno. Roedd yn dal hefo fo pan oedd Paul yn y carchar eto ac yn disgwyl cael ei ddienyddio (2 Tim 4:6,11). Luc hefyd ysgrifennodd Actau’r Apostolion. Felly mae’n dweud hanes bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn Efengyl Luc, ac wedyn yn egluro beth ddigwyddodd i ddilynwyr Iesu yn llyfr yr Actau.
Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i’r Efengylau. Os ydyn ni’n cytuno gyda’r ysgolheigion sy’n meddwl bod Luc wedi defnyddio Efengyl Marc fel ffynhonnell, rhaid rhoi dyddiad diweddarach na’r efengyl honno. Mae’r ysgolheigion hyn yn meddwl fod Luc hefyd, fel Mathew, yn defnyddio deunydd ffynhonnell Q ( sef casgliad pwysig cynnar Aramaeg o ddywediadau a braslun o fywyd Iesu gafodd ei gyfieithu i’r Roeg). Yna bod ganddo hefyd ddeunydd arbennig ei hun - ffynhonnell L (Gwybodaeth gasglodd Luc wrth wrando ar atgofion aelodau hŷn yr eglwys yn Jerwsalem efallai?) Ond yn ddiweddar mae grŵp o ysgolheigion o Jerwsalem wedi dod i’r casgliad mai efengyl Luc oedd y cynharaf.
Mae mwyafrif yr ysgolheigion yn awgrymu dyddiad rywle rhwng 60 ac 80 O.C. Os cafodd ei ysgrifennu cyn llyfr yr Actau (gw.Actau 1:1), byddai dyddiad tua 60-65 O.C. yn debygol. Efallai bod Luc wedi ysgrifennu’r llyfr yn Rhufain, neu o bosib Achaia, ond does dim posib bod yn bendant.
Pam?
O’r holl efengylau, Luc sy’n rhoi’r darlun llawnaf i ni o fywyd Iesu. Dyna ydy ei fwriad – cyflwyno’r ffeithiau cywir am Iesu i ddyn o’r enw Theoffilus (swyddog uchel yn y fyddin Rufeinig o bosib). Efengyl Luc ydy cyfrol gyntaf hanes Iesu a’i ddilynwyr – llyfr Actau’r Apostolion ydy’r ail gyfrol. Mae Luc yn ysgrifennu fel hanesydd, yn rhoi manylion hanesyddol (sy’n cael eu cadarnhau gan ddogfennau hanesyddol a darganfyddiadau archeolegol erbyn hyn). Mae o am ddangos mai ffeithiau gwir sydd y tu cefn i’r ffydd Gristnogol, nid dychymyg. Felly mae o’n rhoi sylfaen hanesyddol gadarn i ffydd ei ddarllenwyr. Ond mae Luc hefyd yn ddiwinydd sy’n cyflwyno Iesu fel yr un sy’n achub (Luc 19:10), nid Iddewon yn unig, ond pobl o bob cenedl. Mae’n rhoi sylw arbennig i bobl dlawd, merched, ‘pechaduriaid’, plant, Samariaid, a’r rhai sy’n cael eu gwrthod. Mae o’n dangos fod Duw yn trugarhau wrth bawb, a bod Iesu wedi dod i gynnig achubiaeth Duw i bawb sy’n barod i’w dderbyn i’w bywyd.
Catrin Roberts
Yr Atgyfodiad
1 Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda'r perlysiau roedden nhw wedi eu paratoi. 2 Dyma nhw’n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi ei rholio i ffwrdd, 3 a phan aethon nhw i mewn i'r bedd doedd y corff ddim yno! 4 Roedden nhw wedi drysu’n lân, ond yna’n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl. 5 Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i lawr o'u blaenau. Yna dyma'r dynion yn gofyn iddyn nhw, "Pam dych chi'n edrych mewn bedd am rywun sy'n fyw? 6 Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? 7 Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai’n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e’n dod yn ôl yn fyw." 8 A dyma nhw’n cofio beth roedd wedi ei ddweud. 9 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr unarddeg disgybl a phawb arall.
10 Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a nifer o wragedd eraill i ddweud yr hanes wrth yr apostolion. 11 Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw – roedden nhw’n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr. 12 Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i’r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno'n wag. Gadawodd y bedd yn methu'n lân a deall beth oedd wedi digwydd.
Ar y Ffordd i Emaus
13 Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem. 14 Roedden nhw'n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd. 15 Wrth i'r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu'n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw. 16 Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi eu rhwystro rhag ei nabod e.
17 Gofynnodd iddyn nhw, "Am beth dych chi'n dadlau gyda’ch gilydd?"
Dyma nhw'n sefyll yn stond. (Roedd eu tristwch i'w weld ar eu hwynebau.) 18 A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, "Mae'n rhaid mai ti ydy'r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!"
19 "Gwybod beth?” gofynnodd.
"Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth," medden nhw. "Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi ei weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol. 20 Ond dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a’i groeshoelio. 21 Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe – Ond mae yna fwy… 22 Yn gynnar y bore ma dyma rai o'r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod, 23 ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu'n fyw. 24 Felly dyma rai o'r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl."
25 “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau oedd e’n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi'n ei chael hi mor anodd i gredu'r cwbl ddwedodd y proffwydi? 26 Maen nhw’n dweud fod rhaid i'r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!" 27 A dyma Iesu’n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi ei ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.
28 Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e’n mynd yn ei flaen. 29 Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: "Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr." Felly aeth i aros gyda nhw.
30 Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw. 31 Yn sydyn dyma nhw'n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a’r foment honno diflannodd o'u golwg. 32 Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, "Roedden ni’n teimlo rhyw wefr, fel petai’n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!"
33 Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw'n dod o hyd i'r unarddeg disgybl a phawb arall gyda nhw, 34 a'r peth cyntaf gafodd ei ddweud wrthyn nhw oedd, "Mae'n wir! Mae'r Arglwydd wedi dod yn ôl yn fyw. Mae Simon Pedr wedi ei weld!" 35 Yna dyma'r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri'r bara.
Iesu'n ymddangos i'r disgyblion
36 Roedden nhw'n dal i siarad am y peth pan ymddangosodd Iesu yn eu canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw. (Cyfarchiad Iddewig sy’n golygu, ‘Heddwch i chi!’")
37 Roedden nhw wedi cael braw. Roedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n gweld ysbryd. 38 Ond dyma Iesu’n gofyn iddyn nhw, "Beth sy’n bod? Pam dych chi'n amau pwy ydw i? 39 Edrychwch ar fy nwylo a'm traed i. Fi sydd yma go iawn! Cyffyrddwch fi. Byddwch chi’n gweld wedyn mai dim ysbryd ydw i. Does gan ysbryd ddim corff ag esgyrn fel hyn!" 40 Roedd yn dangos ei ddwylo a'i draed iddyn nhw wrth ddweud y peth.
41 Roedden nhw’n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu'r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, "Oes gynnoch chi rywbeth i'w fwyta yma?" 42 Dyma nhw'n rhoi darn o bysgodyn wedi ei goginio iddo, 43 a dyma Iesu'n ei gymryd a’i fwyta o flaen eu llygaid.
44 Yna dywedodd wrthyn nhw, "Pan o’n i gyda chi, dwedais fod rhaid i'r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau'r Proffwydi a'r Salmau, ddod yn wir." 45 Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall. 46 "Mae'r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. 47 Rhaid cyhoeddi’r neges yma yn Jerwsalem a thrwy’r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw’n barod i faddau iddyn nhw. 48 Chi ydy’r llygad-dystion sydd wedi gweld y cwbl! 49 Felly dw i'n mynd i anfon beth wnaeth fy Nhad ei addo i chi – arhoswch yma yn y ddinas nes i'r Ysbryd Glân ddod i lawr a'ch gwisgo chi gyda nerth."
Iesu'n mynd yn ôl i'r nefoedd
50 Yna dyma Iesu’n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i’w bendithio nhw 51 cafodd ei gymryd i ffwrdd i'r nefoedd, 52 ac roedden nhw’n ei addoli. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen, 53 a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw.
