Lawrlwythwch beibl.net ar eich ffôn
beibl.net yn eich poced!
Gallwch osod beibl.net ar eich ffôn symudol – iPhone, Android, Y Fwyaren a ffonau symudol eraill sy’n defnyddio Java
· ewch yn syth i unrhyw adnod
· chwiliwch am unrhyw air
· anfonwch adnod i’ch ffrindiau
1. Ffôn sy’n defnyddio Java
Lawrlwythwch i'ch ffôn YMA – beibl.net un ffeil (1.5 mg)
Neu:
YMA – beibl.net pedair ffeil (ar gyfer rhai ffonau hŷn)
Ar eich cyfrifiadur cliciwch y botwm ‘lawrlwytho’ i gadw ffeil beibl.net symudol
- Ffeil ZIP fydd y ffeil sy’n cael ei lawrlwytho. Bydd angen datgywasgu’r ffeil hon, ac fe gewch ffolder beibl.net gyda ffeiliau JAD a JAR ynddi.
- Y ffeil(-iau) JAR ydy’r ffeil(-iau) i’w llwytho ar eich ffôn. (Ffeil ddisgrifydd lai ydy’r ffeil JAD – mae ei hangen ar rai llwythwyr cymwysiadau cyn gallu gosod y ffeil JAR ar y ffôn.)
- Cysylltwch eich ffôn i’r cyfrifiadur, a trosglwyddo’r ffeil(-iau) JAR i’r ffôn
Cafodd y cymhwysiad Go Bible hwn ei adeiladu ar 08-07-2013 gan David Haslam, Arweinydd prosiect Go Bible i CrossWire. Syllwr Beibl Rhad ac am ddim i ffonau symudol Java (MIDP 2.0 neu ddiweddarach) ydy Go Bible
2. Ffôn Android
1. Lawrlwythwch And Bible (o'r Farchnad) am ddim!
2. Derbyn y gwahoddiad i lawrlwytho Beibl
3. Dewis 'Beibl' ar y botwm sydd i'r dde, a 'Cymraeg' ar y chwith.
4. Cyffwrdd 'WelBeiblNet' a derbyn y gwahoddiad i lawrlwytho beibl.net
5. Dim ond y Testament Newydd, Salmau a Diarhebion sydd ar gael ar hyn o bryd, felly bydd y dudalen yn dweud 'Not found in document' am mai pennod gyntaf Genesis sydd arni.
6. Cyffwrdd Gen 1:1 a dewis llyfr a phennod sydd ar gael.
(Gallwch newid y rhyngwyneb i’r Gymraeg hefyd trwy fynd i'r Ddewislen (Menu) > Gosodiadau (Settings) > Iaith y rhaglen (Program Language) > cy: Cymraeg)
3. Y Fwyaren (Blackberry):
1) Ewch i www.mobileappfarm.com/bible a lawrlwytho “The Bible”.
2) Ar ôl lawrlwytho’r rhaglen, ewch i “Translations” o’r ddewislen, a lawrlwytho beibl.net sydd dan “Welsh”
4. iPhone / iPod / iPad:
- Lawrlwytho PocketSword (o’r App Store) am ddim!
- Agor PocketSword a clicio 'Bible' ar waelod y sgrin,
- Clicio ar KJV ar y top (ochr dde)
- Clicio + ar y top (ochr dde) ac mae 'downloads' yn ymddangos.
- Clicio ar 'Crosswire 1' > yna Biblical Texts > yna Welsh > WelBeiblNet > install ar y top (ochr dde)
- wedyn dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.