Iago 3

Dofi'r tafod

 

1 Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy'n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy'n dysgu eraill yn cael ein barnu'n fwy llym. 2 Dyn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o'i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy'n gallu rheoli ei hun yn llwyr. 3 Dyn ni'n rhoi ffrwyn ar geffyl i'w wneud yn ufudd i ni, a'i droi i'r cyfeiriad dyn ni am iddo fynd. 4 A gyda llongau mawr sy'n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i'r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae'n dewis mynd. 5 Dyna i chi'r tafod! Mae'n rhan fach iawn o'r corff, ond mae'n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân. 6 A fflam felly ydy'r tafod! Mae'r tafod yn llawn drygioni, ac o blith holl rannau'r corff, hwn ydy'r un sy'n gallu llygru'r bersonoliaeth gyfan. Mae'n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae'n fflam sydd wedi ei thanio gan uffern!

 

7 Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod, 8 ond does neb byw sy'n gallu dofi'r tafod. Mae'n ddrwg cwbl afreolus; mae'n llawn gwenwyn marwol! 9 Gallwn addoli ein Harglwydd a'n Tad nefol un funud, ac yna'r funud nesa dyn ni'n melltithio pobl sydd wedi eu creu ar ddelw Duw!Croes10 Mae bendith a melltith yn llifo o'r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd! 11 Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o'r un ffynnon? 12 Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith!

Dau fath o ddoethineb

 

13 Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth. 14 Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd. 15 Dim dyna'r math o ‘ddoethineb’ mae Duw'n ei roi i bobl! Yn hollol i'r gwrthwyneb! — mae ‘doethineb’ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o'r diafol ei hun! 16 Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi'n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.

 

17 Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith. 18 Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Mawrth, Tachwedd 24, 2015