Mathew 15

Glân ac aflan

(Marc 7:1-13)

 

1 Dyma Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith o Jerwsalem yn dod at Iesu, a gofyn iddo,2 “Pam mae dy ddisgyblion di yn gwneud beth sy'n groes i'r traddodiad? Maen nhw'n bwyta heb fynd drwy'r ddefod o olchi eu dwylo!”

 

3 Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau?4 Er enghraifft, gorchmynnodd Duw, ‘Gofala am dy dad a dy fam’Croes a ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’Croes5 Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw,’6 Does dim rhaid ‘gofalu am dad’ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.7 Dych chi mor ddauwynebog! Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi:

8‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i,

ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.

9 Mae eu haddoliad yn ddiystyr;

mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’”Croes

10 Yna dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch er mwyn i chi ddeall.11 Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‘aflan’; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‘aflan’.”

 

12 A dyma'r disgyblion yn mynd ato a dweud wrtho, “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!”

 

13 Atebodd yntau, “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny.14 Gadewch iddyn nhw — arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd.”

 

15 Yna meddai Pedr, “Esbonia i ni beth ydy ystyr y dywediad.”

 

16 “Ydych chi'n dal mor ddwl?” meddai Iesu.17 “Ydych chi ddim yn gweld fod bwyd ddim ond yn mynd drwy'r stumog ac yna'n dod allan yn y tŷ bach?18 Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon, a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‘aflan’.19 O'ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas.20 Dyma'r pethau sy'n gwneud rhywun yn ‘aflan’. Dydy bwyta heb gadw'r ddefod o olchi'r dwylo ddim yn eich gwneud chi'n ‘aflan’.”

Ffydd y wraig Gananeaidd

(Marc 7:24-30)

 

21 Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon.22 Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal oedd o dras Cananeaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”

 

23 Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”

 

24 Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.”

 

25 Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.

 

26 Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.” Ref

 

27 “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.”

 

28 Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.

Iesu'n bwydo'r pedair mil

(Marc 8:1-10)

 

29 Pan adawodd Iesu'r ardal honno, teithiodd ar lan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr.30 Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, neu'n ddall, neu'n anabl, neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, a iachaodd nhw.31 Roedd y bobl wedi eu syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel.

 

32 Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd heb gael rhywbeth i'w fwyta, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.”33 Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!”

 

34 “Sawl torth o fara Ref sydd gynnoch chi?” meddai Iesu.

 

“Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”

 

35 Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr.36 Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.37 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.38 Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!39 Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i'r cwch a chroesi i ardal Magadan. Ref

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Mawrth, Chwefror 9, 2016