Am beibl.net - Dehongliad

Dehongliad?

Mae elfen o ddehongli ym mhob cyfieithu. Mae'r cyfieithydd yn ceisio deall yr hyn a ddywedir yn yr iaith wreiddiol cyn mynd ati i geisio mynegi'r un ystyr yn yr iaith mae'n cyfieithu iddi. Er mwyn ceisio gwneud yr aralleiriad yn syml ac yn ddarllenadwy mae elfen gryf o ddehongli yma ac acw yn yr aralleiriad hwn. Mae amwysedd yn y gwreiddiol o bryd i'w gilydd, ac yn hytrach na cheisio cadw'r amwysedd hwnnw, dewiswyd yr ystyr mwyaf tebygol ym marn y cyfieithydd. Mewn rhai mannau mae ansicrwydd ac anghytundeb mawr ynglŷn a'r cyd-destun gwreiddiol a'r ystyr (e.e. 1 Corinthiaid 11:2-16). Eto yn yr achos hwn dewiswyd dilyn yr ystyr mwyaf tebygol ym marn y cyfieithydd. Cydnabyddir mai hyn a wnaethpwyd, a derbynir pob cyfrifoldeb am unrhyw wendidau yn y gwaith o ganlyniad i hynny.

Ceiswyd edrych i ddau gyfeiriad i sicrhau fod yr aralleiriad yn gywir ac yn ddarllenadwy:

1. Ystyriwyd y testun gwreiddiol yn ofalus, a cheiswyd deall yr hyn oedd yn cael ei ddweud a darganfod beth oedd ystyr hynny.
2. Ceisiwyd cadw golwg gyson ar sicrhau fod yr aralleiriad yn syml, yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy - mewn iaith bob dydd.