Am beibl.net - Luc@Beibl.net

Cafodd Luc@Beibl.net ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2002, ac yn ystod 2003 llwyddwyd i ddosbarthu 18,000 o gopïau yn rhad ac am ddim i blant blwyddyn 6 a 7 yn yr Ysgolion Cymraeg.
Roedd yr efengyl wedi ei hargraffu mewn lliw llawn ac wedi'i dylunio'n fodern. Roedd pedwar clawr gwahanol ar gael, a phob un ohonyn nhw yn darlunio digwyddiadau o stori Luc mewn ffordd fywiog.

Partneriaeth rhwng Coleg y Bala1 , GiG2 a Scripture Union3 oedd prosiect Luc@Beibl.net.
Tyfodd y prosiect o ganlyniad i'r angen am ragor o ddefnyddiau Beiblaidd deniadol yn y Gymraeg. Roedd yn brosiect mentrus a chostus, ond yn hynod lwyddiannus. Y gobaith yw y bydd modd ailargraffu Luc@Beibl.net maes o law, a sicrhau copïau o'r efengyl i fwy eto o blant a phobl ifanc Cymru.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn beibl.net

1 Canolfan hyfforddi ac adnoddau Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Coleg y Bala.
2 Gobaith i Gymru yw enw llawn GiG. Pwrpas GiG yw cefnogi gwaith eglwysi lleol yn ennill pobl Gymraeg eu hiaith i Grist.
3 Mae Scripture Union yn cydweithio ag eglwysi i ddefnyddio’r Beibl i ysbrydoli plant, pobl ifanc ac oedolion i adnabod Duw.