Salm 116: 1-6

1 Dw i wir yn caru'r ARGLWYDD

am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.

2 Mae e'n troi i wrando arna i,

a dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.

3 Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i;

roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.

Roeddwn i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!

4 A dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD,

“O ARGLWYDD, plîs achub fi!”

 

5 Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig;

ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.

6 Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;

achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Sadwrn, Tachwedd 28, 2015