Salm 119: 97-104

O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di!

Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.

98 Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser;

maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;

99 Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd,

am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.

100 Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed,

am fy mod i'n cadw dy ofynion di.

101 Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg

er mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.

102 Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di,

am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.

103 Mae'r pethau wyt ti'n eu dweud mor dda,

maen nhw'n felys fel mêl.

104 Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi;

ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Sadwrn, Ionawr 2, 2016