Salm 139: 13-16

Ti greodd fy meddwl a'm teimladau i;

a'm plethu i yng nghroth fy mam.

14 Dw i'n dy foli di,

am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!

Mae'r cwbl rwyt ti'n wneud yn anhygoel!

Ti'n fy nabod i i'r dim!

15 Roeddet ti'n gweld fy ffrâm i

pan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel,

ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.

16 Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!

Roedd hyd fy mywyd wedi ei drefnu,

pob diwrnod wedi ei gofnodi yn dy lyfr —

a hynny cyn i un fynd heibio!

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Sul, Chwefror 14, 2016