Salm 27 : 1-4

1 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i;

does gen i ofn neb.

Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i,

does neb yn fy nychryn i.

2 Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i

i'm llarpio fel ysglyfaeth —

nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu i),

ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.

3 Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i,

fyddai gen i ddim ofn.

Petai rhyfel ar fin torri allan,

byddwn i'n gwbl hyderus.

4 Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth —

dyma beth dw i wir eisiau.

Dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDD

am weddill fy mywyd;

i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD,

a myfyrio yn ei deml.

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Sadwrn, Ebrill 30, 2016