Aceldama

 

• Ystyr yr enw Aramaeg ydy Maes y Gwaed.
• Lladdodd Jwdas Iscariot ei hun yn Aceldama pan sylweddolodd beth oedd wedi ei wneud wrth fradychu Iesu Grist. Cyn hynny roedd pobl yn galw’r lle yn Faes y Crochenydd, ac roedd rhai yn cysylltu’r enw’n draddodiadol gyda Tŷ’r Crochenydd yn Nyffryn Hinnom (Jeremeia 18:2).
• Credir fod y maes ar ochr ddeheuol y dyffryn. Ond mae traddodiad arall yn dweud ei fod i’r gogledd o Jerwsalem.
• Cafodd Aceldama ei ddefnyddio fel lle i gladdu pobl ddieithr oedd ar bererindod i Jerwsalem.
(gweler Actau 1:19)