Bartholomeus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Un o ddeuddeg disgybl Iesu. Ystyr ei enw ydy ‘mab Ptolemi’. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel Nathanael ac yn cael ei restru wrth yr enw hwnnw yn Efengyl Ioan.
(gweler Mathew 10:3; Marc 3:18; Luc 6:14; Actau 1:13 hefyd NATHANAEL)