Candace

 

Enw neu deitl brenhines Ethiopia. Cafodd swyddog iddi hi dröedigaeth wedi iddo wrando ar Philip yn egluro proffwydoliaeth Eseia mewn cerbyd ar y ffordd o Jerwsalem i Gasa. Cafodd y swyddog ei fedyddio gan Philip. Nid Ethiopia ein dyddiau ni ydy’r Ethiopia yma, ond yn hytrach rhan o Ogledd Swdan. Roedd y frenhines yn cael rheoli’r wlad ar ran ei mab. Roedd y brenin ei hun yn cael ei ystyried yn dduw (plentyn y duw haul), ac felly roedd yn cael ei ystyried yn rhy sanctaidd i wneud dyletswyddau bob dydd brenin.
(gweler Actau 8:27)