Effesus

 

• Dinas bwysig fasnachol ar arfordir gorllewinol Asia Leiaf (Twrci heddiw). Roedd yr harbwr (sydd bellach wedi ei gau gyda mwd) yn agor i Fôr Aegea ac ar lwybrau masnach pwysicaf yr ardal. Roedd pobl yn meddwl bod y ddinas bron cystal â Rhufain, Corinth, Antioch neu Alecsandria. Roedd yn cael y llysenw “Trysorfa Asia” am ei bod mor llewyrchus o ran pensaernïaeth a busnes.
• Roedd yn ddinas lle roedd y Llywodraethwr Rhufeinig yn cynnal achosion llys barn pwysig.
• Roedd teml i Artemis (Diana) yno - un o saith rhyfeddod yr hen fyd. Mae’r Testament Newydd yn sôn am y deml, a’r ffaith fod delw o’r dduwies wedi disgyn o’r nefoedd (meteorit efallai?). Dinistriodd y Gothiaid y deml yn 260 O.C., ond mae olion teml wedi eu darganfod mewn cors wrth droed Mynydd Ayasoluk. Roedd teml Artemis bedair gwaith yn fwy na’r Parthenon mawr yn Athen. Mae archeolegwyr hefyd wedi darganfod arian oedd yn cael ei fathu yn Effesus.
• Roedd y deml yn cynnig noddfa (lle diogel) i droseddwyr, felly roedd llawer o droseddwyr yn byw yn y ddinas.
• Pan ddechreuodd pobl addoli’r ymerawdwyr Rhufeinig fel duwiau, cafodd temlau eu hadeiladu yn Effesus i Claudius, Hadrian a Severus.
• Roedd llawer o adeiladau ysblennydd yn y ddinas. Roedd lle i 25,000 o bobl yn y Theatr wrth droed Bryn Pion, ac mae olion y theatr yno o hyd.
• Dyma lle roedd y Gemau Ioniaidd yn cael eu cynnal. Roedd pawb yn yr ardal yn dod i’r gemau hyn. Roedd trefnyddion y gemau, yr Asiarchiaid yn swyddogion pwysig iawn.
• Erbyn heddiw darn hirsgwar o dir corslyd ydy safle hen ddinas Effesus, gyda llawer o adfeilion a cholofnau i’w gweld yno.
• Roedd Effesus yn ganolfan i waith cenhadol Paul am 3 blynedd. Mae rhai yn meddwl bod Paul wedi cael ei garcharu yma, ond dydy’r Beibl ddim yn dweud hyn. Mae llythyr ysgrifennodd Paul at yr eglwys yn Effesus i’w weld yn y Testament Newydd. Ar ôl i Paul adael, cariodd Timotheus ymlaen gyda’r gwaith yno.
• Mae eglwys Effesus yn un o’r saith eglwys yn llyfr y Datguddiad sy’n derbyn neges oddi wrth Dduw.
• Mae hen draddodiad yn dweud fod Ioan yr Apostol wedi mynd i fyw i Effesus a’i fod wedi byw yno nes ei fod yn hen iawn. Mae lle pwysig i’r ddinas yn hanes yr eglwys Gristnogol. Cafodd Cyngor arbennig ei gynnal yno yn 431 O.C.
• Mae rhai haneswyr yn credu fod y ddinas wedi dirywio oherwydd effeithiau y salwch Malaria.
(gweler Actau 18:19-24; 19:1-35; 20:16,17; 21:29; 1 Corinthiaid 15:32; 16:8; Effesiaid 1:1; 1 Timotheus 1:3; 2 Timotheus 1:18; 4:12; Datguddiad 1:11; 2:1 )