Gasa

 

• Roedd dinas Gasa tua 50 milltir i’r de orllewin o Jerwsalem ac yn un o 5 prif ddinas y Philistiaid yn yr Hen Destament. Concrodd Josua y ddinas (Josua 10) ac yna ei cholli.
• Yn Barnwyr 16 mae hanes Samson a’r butain o Gasa. Cafodd Samson ei garcharu yn Gasa wedi i Delila ei dwyllo.
• Pan lwyddodd y Philistiaid i ddwyn Arch y Cyfamod oddi ar yr Israeliaid, cafodd pobl Gasa eu taro gan bla (1 Samiwel 6) ac yn amser Jeremeia (Jeremeia 47) cafodd Gasa ei choncro gan yr Aifft.
• Cafodd yr hen ddinas ei dinistrio yn 93 C.C. Tua 58 C.C. cafodd dinas newydd ei hadeiladu ar safle newydd.
• Roedd ffordd Gasa yn mynd o Jerwsalem drwy Bethlehem a Hebron at y brif ffordd i’r Aifft.
(gweler Actau 8:26)