Ioan

 

Awdur llyfr y Datguddiad.
Cristion Iddewig, a henadur adnabyddus a dylanwadol wnaeth ddioddef erledigaeth oherwydd ei ffydd. Cafodd ei anfon i ynys Patmos fel cosb. Cafodd weledigaethau ysbrydol yno ac ysgrifennodd am y rhain yn llyfr y Datguddiad. Mae llawer yn credu mai Ioan, disgybl annwyl Iesu ydy’r awdur, er bod rhai yn amau hyn.
(gweler Datguddiad 1:1-9; 22:8)
 

Mae efengyl Ioan yn wahanol i’r tair efengyl arall. Mae’n cyfeirio at saith o bethau sy’n arwyddion clir mai Iesu ydy Mab Duw.