Jwstws

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Wedi i Jwdas Iscariot ladd ei hun, roedd angen rhywun i gymryd ei le fel apostol. Roedd Jwstus yn un o’r ddau gafodd eu hystyried gan yr eglwys yn Jerwsalem i gymryd lle Jwdas Iscariot fel un o’r deuddeg apostol. Mathias oedd y llall, a hwnnw gafodd ei ddewis, ond mae’r hanes yn dangos fod parch mawr at Joseff Barsabas ymhlith y Cristnogion yn Jerwsalem.
(gweler Actau 1:23 hefyd JOSEFF; BARSABAS)