Timotheus

 

Cymeriad pwysig yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore.
• Dyn ifanc o Lystra (De Twrci heddiw) oedd Timotheus, ei dad yn Roegiwr a’i fam yn Iddewes dda a ddysgodd y Llyfrau Sanctaidd Iddewig i’w mab.
• Mae’n bosib fod Timotheus wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul – gan fod Paul yn dweud amdano “rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd” (1 Timotheus 1:2).
• Penderfynodd Paul fynd â Timotheus ar ei deithiau cenhadol, a daeth y dyn ifanc yn ffrind da iddo ac yn bartner gwaith ffyddlon. Comisiynodd yr eglwys Timotheus i’r gwaith. Cafodd ei enwaedu er mwyn cael gweithio gydag Iddewon. Aeth i efengylu hefo Paul yn Macedonia, Achaia, ac Effesus. Treuliodd beth amser yn y carchar hefyd. Yna cafodd y cyfrifoldeb o arwain eglwys Effesus, arolygu gwaith yr eglwysi lleol, a dewis a hyfforddi arweinwyr eglwysig newydd. Nid gwaith hawdd oedd hyn i berson fel Timotheus oedd yn ddyn digon nerfus, ac yn dioddef hefo’i stumog (1 Timotheus 5:23).
• Mae dau lythyr oddi wrth yr apostol Paul i Timotheus yn y Testament Newydd, llythyrau sy’n rhoi cyngor iddo, ac yn ei annog i ddal ati yn y ffydd Gristnogol.
(gweler Actau 16:1-20:4; Rhufeiniaid 16:21; 1 Corinthiaid 4:17; 16:10; 2 Corinthiaid 1:1,19; Philipiaid 1:1; 2:19,22; Colosiaid 1:1; 1 Thesaloniaid 1:1; 3:2,6; 2 Thesaloniaid 1:1; 1 Timotheus 1:2,18; 6:20; 2 Timotheus 1:2; Philemon 1; Hebreaid 13:23)