1 Ioan

Pwy ydy’r awdur?
Does dim ar ddechrau’r llythyr i ddweud pwy ydy’r awdur. Ond mae traddodiad cynnar cryf mai Ioan, mab Sebedeus, y pysgotwr ddaeth yn ddisgybl ac yna yn apostol i Iesu, ysgrifennodd y llythyr. Dyma’r disgybl annwyl, un o dri ffrind agosaf Iesu. Os am wybod mwy, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Efengyl Ioan. Mae yna rai pethau yn y llythyr yn awgrymu mai Ioan ydy’r awdur
• mae tebygrwydd mawr rhwng dull ysgrifennu Efengyl Ioan a’r llythyr. Mae’r Roeg yn syml, ac yn gwneud defnydd o gyferbyniad e.e. golau/tywyllwch, bywyd/marwolaeth.
• mae’r dechrau yn bersonol iawn, fel tystiolaeth llygad dyst.
• mae’r llythyr yn llawn awdurdod, sy’n awgrymu ei fod yn apostol ac arweinydd yn yr eglwys.
• mae awgrym fod yr awdur yn dechrau mynd yn hen (mae’n siarad gyda’r darllenwyr fel plant iddo) – mae traddodiad yn dweud bod Ioan wedi byw yn hen.
• mae’r awdur wedi cael perthynas agos gyda Iesu (1:5)

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae ysgolheigion yn awgrymu tua 90-100 O.C.

Pam?
Dyn ni ddim yn gwybod at bwy ysgrifennodd Ioan, dim ond eu bod nhw’n credu yn Iesu. Mae rhai wedi awgrymu mai cylchlythyr sydd yma at eglwysi ardal Effesus - roedd Ioan wedi bod yn gweithio yno. Ysgrifennodd Ioan ei efengyl er mwyn helpu pobl i gredu yn Iesu. Ysgrifennodd y llythyr hwn i godi calon Cristnogion ac i’w helpu nhw i deimlo’n sicrach am eu ffydd. Roedd rhai athrawon wedi bod yn dysgu pethau rhyfedd iawn yn yr eglwysi, pethau oedd yn groes i’r efengyl. Enghraifft o hyn oedd heresi Gnosticiaeth. Daeth yr heresi i’r amlwg yn yr ail ganrif, ond mae llythyrau’r Testament Newydd yn dangos fod y syniadau wedi dechrau lledu cyn diwedd y ganrif gyntaf. Mae gnosticiaeth yn dysgu bod popeth ysbrydol yn dda, a phopeth materol yn ddrwg. Dyma beth roedd Gnosticiaid yn credu:
• rhaid trin y corff mewn ffordd asgetig (h.y. disgyblu’r corff yn galed)
• cael eich rhyddhau o’r corff a chodi at Dduw ydy iachawdwriaeth. Rhaid cael gwybodaeth gyfrin (ystyr y gair Groeg gnosis ydy gwybodaeth) i wneud hyn. Mae’r efengyl yn dysgu mai ffydd yn Iesu sy’n arwain at iachawdwriaeth.
• doedd Iesu ddim yn ddyn mewn gwirionedd, dim ond yn ymddangos fel petai ganddo fo gorff (docetiaeth), neu fod ei dduwdod wedi dod iddo fo yn ei fedydd, ac wedi ei adael cyn iddo farw (cerenthianistiaeth)
• does dim ots sut oedd rhywun yn byw, yn dda neu’n ddrwg.
Mae Ioan am ddangos mai lol ydy hyn, ac am sicrhau’r Cristnogion bod Iesu, mab Duw, wedi dod i’r ddaear yn ddyn go iawn. Roedd o’n adnabod Iesu yn bersonol ac yn sicr o hyn. Felly mae Iesu wedi cael ei aberthu yn iawn dros bechodau’r byd. Mae Ioan hefyd yn pwysleisio’r angen am gariad rhwng pobl a’i gilydd.

Catrin Roberts