1 Thesaloniaid

Pwy ydy’r awdur?
Paul. Dych chi’n gallu darllen hanes ei waith yn rhannu’r newyddion da am Iesu yn llyfr yr Actau. Os am fwy o wybodaeth amdano edrychwch ar “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae llawer o dystiolaeth fod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr hwn o Gorinth tua 50 O.C. Mae’n bosib felly mai dyma’r llythyr cyntaf ysgrifennodd Paul (os nad ydyn ni’n derbyn dyddiad cynharaf ei lythyr at y Galatiaid – gweler “Pwy? Pryd? Pam?” y llythyr hwnnw)

Pam?
Thesalonica oedd prifddinas talaith Macedonia (sef Gogledd Gwlad Groeg), ac roedd ar groesffordd fasnachol brysur. Yn Actau 17 mae hanes Paul yn cychwyn eglwys yno yn ystod ei ail daith genhadol. Roedd rhai Iddewon yn yr eglwys, ond roedd y mwyafrif yn perthyn i genhedloedd eraill. Dyma fraslun o’r hanes
1. Paul a Silas yn cyrraedd Thesalonica. Paul yn pregethu yn y synagog am dri Saboth. Yn aros gyda dyn o’r enw Jason.
2. Rhai Iddewon yn ymosod ar dŷ Jason ac yn cyhuddo Paul o dorri ar yr heddwch. Helynt mawr.
3. Paul a Silas yn gorfod dianc i Berea, ac yn pregethu yno, ond pobl Thesalonica yn ei ddilyn yno, felly Paul yn dianc i Athen. Silas a Timotheus yn aros yn Berea.
4. Timotheus a Silas yn ymuno hefo Paul yn Athen. Timotheus yn cael ei anfon gan Paul yn ôl i Thesalonica. Mae’n debyg fod Paul am wybod beth oedd wedi digwydd i’r Cristnogion newydd yno.
5. Paul yn mynd i ddinas Corinth.
6. Silas a Timotheus yn dod at Paul i Gorinth. Newyddion da – yr eglwys yn Thesalonica yn sefyll yn gadarn ac yn rhannu Crist hefo pobl eraill.
7. Paul yn ysgrifennu’r llythyr cyntaf at y Thesaloniaid.

Oherwydd ei fod o wedi gadael y ddinas mor sydyn, chafodd Paul ddim cyfle i ddysgu pethau sylfaenol am y ffydd Gristnogol i’r eglwys newydd. Dechreuodd gelynion Paul yn y ddinas hel straeon a dweud pethau cas amdano, er mwyn gwneud drwg iddo fo. Roedd Paul yn poeni y byddai aelodau’r eglwys yn colli gafael ar eu ffydd wrth glywed y pethau yma. Felly yn y llythyr, mae Paul yn:
• calonogi’r bobl wrth iddyn nhw wynebu erledigaeth a pherygl.
• dysgu’r Cristnogion ifanc sut i fyw bywydau duwiol.
• sôn am ail-ddyfodiad Iesu. Roedd Cristnogion y cyfnod hwn, dim ond tua 20 mlynedd ar ôl i Iesu gael ei groeshoelio ac atgyfodi, yn disgwyl iddo ddod yn ôl i’r ddaear yn fuan iawn. Roedd rhai yn meddwl bod dim angen iddyn nhw weithio oherwydd fod diwedd y byd mor agos.
• ateb cwestiynau’r Thesaloniaid am y Cristnogion hynny oedd wedi marw’n ddiweddar. Roedden nhw’n poeni y byddai’r rhain yn colli allan mewn rhyw ffordd pan fyddai Iesu yn dod yn ôl i’r ddaear.

Catrin Roberts