2 Ioan

Pwy ydy’r awdur?
Ioan, mab Sebedeus, y pysgotwr ddaeth yn ddisgybl ac yna’r apostol i Iesu ( os am wybod mwy, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Efengyl Ioan). Mae’n cyflwyno ei hun ar ddechrau’r llythyr fel henadur, ac yn ôl traddodiad daeth Ioan yn henadur yn eglwys Effesus. Mae rhai ysgolheigion yn meddwl mai rhyw Ioan arall, sef ‘Ioan yr Henadur’, ydy’r awdur.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae ysgolheigion yn awgrymu tua 90-100oC.

Pam?
Ar ddiwedd y ganrif gyntaf, roedd yr eglwys Gristnogol ifanc yn wynebu problemau oherwydd fod athrawon ffals yn yr eglwysi yn dysgu pethau oedd yn groes i’r efengyl. Roedd hefyd yn groes i’r hyn roedd yr apostolion gwreiddiol wedi dysgu am Iesu, ei fywyd a’i farwolaeth. Mae llawer o lythyrau’r Testament Newydd wedi cael eu hanfon i’r eglwysi i ddangos pa mor anghywir a pheryglus ydy’r math newydd yma o syniadau, ac i annog a helpu’r Cristnogion cynnar i gadw at y wir ffydd.
Roedd efengylwyr ac athrawon yn arfer teithio o le i le yn amser yr Eglwys Fore, yn dysgu am Iesu. Roedden nhw’n cael croeso a llety gan aelodau’r eglwysi. Yn y llythyr hwn mae Ioan yn dweud bod angen bod yn ofalus, a gwrthod llety i’r rhai sy’n dysgu pethau sy’n groes i’r efengyl sylfaenol am Iesu. Mae o hefyd yn pwysleisio gorchymyn Iesu iddyn nhw garu ei gilydd ac eraill.
Dyn ni ddim yn gwybod at bwy ysgrifennodd Ioan ei lythyr. Ond mae’n amlwg fod Ioan yn adnabod y darllenwyr ac yn bwriadu mynd i’w gweld cyn hir.

Catrin Roberts