2 Pedr

Pwy ydy’r awdur?
Pedr, y pysgotwr gafodd ei alw gan Iesu i fod yn ddisgybl ac yna yn apostol iddo. Mae’n cael ei alw yn Simon Pedr hefyd yn y Testament Newydd. Os am wybod mwy amdano, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” 1 Pedr. Mae llawer o ysgolheigion yn dadlau nad Pedr ydy’r awdur. Maen nhw’n awgrymu mai disgybl i Pedr ysgrifennodd llythyr yn enw ei athro. Mae eraill yn dweud bod Pedr wedi defnyddio amanuensis (ysgrifennydd), a bod hynny’n egluro pam bod yr iaith a’r arddull yn wahanol. Ond mae rhai arwyddion yn awgrymu’n gryf mai Pedr ydy’r awdur e.e.
• 1:16 ymlaen – mae’r awdur wedi gweld Iesu yn ei fawredd, adeg y gweddnewidiad. Dim ond Iago, Ioan a Pedr oedd ar y mynydd gyda Iesu y pryd hwnnw.
• 3:1 – mae’r awdur wedi ysgrifennu un llythyr at y darllenwyr yn barod.
• 3:15 mae’n galw Paul yn frawd annwyl.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ac mae hynny’n arbennig o wir am 2 Pedr. Mae ysgolheigion wedi awgrymu amrywiaeth fawr o ddyddiadau. 60au’r ganrif gyntaf os mai Pedr oedd yr awdur, rywbryd rhwng 75 a 100 O.C. os mai rhywun arall oedd yr awdur.

Pam?
Ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf i helpu’r eglwysi i wynebu problemau oedd yn codi oherwydd erledigaeth yr awdurdodau Rhufeinig ar orchymyn yr Ymerawdwr Nero. Dydy’r ail lythyr hwn ddim yn enwi neb, ond mae 3:1 yn awgrymu fod yr awdur yn ysgrifennu at yr un bobl, ac am eu helpu nhw i ddelio hefo problemau oedd yn codi y tu mewn i’r eglwysi. Y broblem fwyaf oedd athrawon ffals oedd yn dysgu’n groes i’r efengyl. Mae Pedr yn ysgrifennu fel un sy’n gwybod ei fod yn wynebu marwolaeth (1:14), ac mae o am annog y Cristnogion hyn i dyfu yn y ffydd. Rhaid iddyn nhw sefyll yn erbyn yr athrawon sy’n camarwain y bobl ar bynciau megis sut i fyw fel Cristnogion, ac ail-ddyfodiad y Meseia. Roedd yr athrawon ffals yma yn dysgu bod angen rhyw wybodaeth arbennig, cyfrin cyn i chi gael eich achub, ac nad oedd angen byw bywyd sanctaidd (da) ac ufuddhau i Iesu Grist. Mae Pedr yn pwysleisio bod Iesu yn mynd i ddod nôl i’r byd, a bod angen i’w ddilynwyr fod yn barod am y diwrnod hwnnw, trwy fyw bywydau “glân, difai ac mewn perthynas iawn hefo Duw”.(3:14).
Mae’r llythyr hwn yn debyg iawn i rannau o lythyr Jwdas, ac mae rhai ysgolheigion yn awgrymu bod un ohonyn nhw (dyn ni ddim ddim yn gwybod pa un) wedi defnyddio gwaith y llall, neu fod y ddau wedi defnyddio gwaith rhywun arall wrth ysgrifennu.

Catrin Roberts