2 Timotheus

Pwy ydy’r awdur?
Paul, yr apostol (os am fwy o wybodaeth, gallwch ddarllen “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid, a 1 Timotheus)

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae rhai yn credu fod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr hwn at yr arweinydd ifanc Timotheus yn ystod ei ail garchariad yn Rhufain. Maen nhw’n credu hefyd mai dyma’r llythyr olaf gan Paul sydd wedi ei gadw i ni heddiw. Dyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd i Paul wedi diwedd llyfr yr Actau. Mae ysgolheigion yn dadlau ei fod wedi cael ei ryddhau o’r carchar y pryd hwnnw, ac wedi cario mlaen gyda’i waith cenhadol, cyn cael ei ail-arestio pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Nero erlid Cristnogion. Yn y diwedd, dyn ni’n meddwl fod Paul wedi cael ei ladd gan Nero tua 65 – 67 O.C.

Pam?
Wedi treulio ei oes yn gweithio dros Efengyl Iesu, mae Paul yn y carchar eto, ac yn dioddef mewn cell oer ac mewn cadwynau. Roedd ei ffrindiau wedi cael trafferth i ddod o hyd iddo (1:17). Dyma ddarlun gwahanol iawn i’r un ar ddiwedd llyfr yr Actau. Yno mae Paul yn gallu croesawu pobl ato a dysgu am Iesu yn agored. Yma mae’r apostol yn gwybod bod marwolaeth yn agos, ond dydy o ddim yn teimlo piti drosto’i hun, nac yn edifar ei fod o wedi treulio ei fywyd yn gwasanaethu Iesu Grist. Ond mae o yn teimlo’n unig, oherwydd bod rhai pobl wedi ei adael, a dim ond Luc oedd ar ôl yn gwmni iddo fo. Mae o’n dyheu am weld ei ffrind annwyl Timotheus. Dyn ifanc o Lystra oedd wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul oedd Timotheus. Roedd wedi mynd gyda Paul ar ei deithiau cenhadol a daeth yn ffrind da iddo ac yn bartner gwaith ffyddlon. Bu’n efengylu hefo Paul yn Macedonia, Achaia, ac Effesus. Yna cafodd y gwaith o arwain eglwys Effesus. Yno, roedd yn gyfrifol am arolygu’r Cristnogion lleol, a dewis a hyfforddi arweinwyr eglwysig newydd. Nid gwaith hawdd oedd hyn i berson fel Timotheus oedd yn gymeriad digon nerfus, ac yn dioddef o anhwylder ar y stumog.
Roedd Paul yn sylweddoli mai ychydig iawn o amser oedd ar ôl ganddo i fyw. Dyna pam mae’n poeni am yr eglwysi fyddai’n dioddef erledigaeth yr Ymerawdwr Nero, ac ar yr un pryd yn clywed dysgeidiaeth ffug yr athrawon ffals. Mae o’n ysgrifennu at Timotheus i roi siars olaf iddo i:
• amddiffyn yr efengyl (1:14)
• dal ati (3:14)
• cario mlaen i bregethu (4:2)
• bod yn barod i ddioddef yn enw’r Efengyl.
Trwy’r llythyr hwn at Timotheus, mae Paul yn annog yr eglwys yn Effesus hefyd. Mae’n wynebu marwolaeth heb ofn a heb amheuaeth, ac yn cymharu bywyd i ras. Erbyn hyn mae’r ras drosodd iddo fo, ond mae o wedi dal ati i redeg hyd at y llinell derfyn. Mae o’n gwbl sicr bod Duw yn disgwyl amdano hefo bywyd tragwyddol yn wobr.

Catrin Roberts