Actau

Pwy ydy’r awdur?

Er nad ydy awdur y llyfr yn cael ei enwi, mae yna dystiolaeth mai Luc, awdur Efengyl Luc, ysgrifennodd lyfr yr Actau hefyd. Roedd Luc yn Gristion, ond nid yn Iddew. Cafodd ei ddisgrifio gan Paul yn ei lythyr at y Colosiaid (4:14) fel “ein ffrind annwyl Luc, y meddyg”. Mae awdur Llyfr yr Actau yn defnyddio’r gair “ni” wrth ysgrifennu, gan ddangos ei fod o’n bresennol yn y digwyddiadau mae’n eu disgrifio. Luc sy’n ffitio’r darlun hwn orau – dyn ni’n gwybod ei fod o wedi teithio gyda Paul, a’i fod o gyda’r apostol pan gafodd ei arestio yn Jerwsalem ac yna ei garcharu am ddwy flynedd yn Cesarea. Teithiodd Luc gyda Paul ar y llong i Rufain a dioddef llongddrylliad cyn cyrraedd y brifddinas.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae rhai yn awgrymu tua 63 O.C., yn fuan ar ôl y digwyddiad olaf sy’n cael ei ddisgrifio yn llyfr yr Actau, sef carchariad Paul yn Rhufain, achos dydy Luc ddim yn rhoi canlyniad achos llys Paul. Mae pobl eraill yn dadlau dros ddyddiad mwy diweddar – tua 70 o.C ac yn dweud bod Luc wedi gorffen ei lyfr yn fwriadol hefo hanes Paul yn cyhoeddi’r efengyl yn Rhufain. Maen nhw’n credu mai dyma uchafbwynt y llyfr – pregethu’r efengyl ym mhrif ddinas yr Ymerodraeth.

Pam?
Dyma ail lyfr Luc. Yn y cyntaf, Efengyl Luc, mae’n rhoi hanes bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu er mwyn i ddyn o’r enw Theoffilus glywed y ffeithiau amdano. Yn yr ail gyfrol mae’n dweud beth wnaeth dilynwyr Iesu trwy nerth ac arweiniad yr Ysbryd Glân, eto ar gyfer Theoffilus. Dyn ni ddim yn gwybod pwy oedd y dyn hwn - swyddog Rhufeinig efallai - ond mae Luc am iddo fo gael y ffeithiau cywir am y ffydd Gristnogol.
Mae’n ysgrifennu hanes dechrau’r eglwys Gristnogol, a’r ffordd wnaeth yr efengyl ledu o Jerwsalem i Rufain – hanes cyfnod o tua 30 mlynedd. Wrth gwrs, roedd Luc mewn sefyllfa dda iawn i gael y ffeithiau cywir – gan Paul, Pedr, Barnabas, ac aelodau eglwys Antioch, a hefyd gan Iago, brawd Iesu ac aelodau’r eglwys yn Jerwsalem. Ac wrth gyflwyno’r ffeithiau, mae Luc ei hun yn cael cyfle i rannu’r neges Gristnogol a gwneud gwaith cenhadol.
Peth arall mae Luc yn ei wneud ydy dangos bod y ffydd Gristnogol ddim yn fygythiad i heddwch a threfn yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae’n pwysleisio bod unrhyw helynt yn digwydd oherwydd agwedd yr arweinwyr Iddewig at Gristnogion, ac nid oherwydd unrhywbeth mae’r Cristnogion yn ei wneud.
Mae darllen Llyfr yr Actau bron fel edrych ar ffilm – mae Luc yn ysgrifennu’r hanes mewn ffordd gyffrous, gyda golygfeydd dramatig a deialog byw. Mae’n defnyddio Groeg graenus gyda geirfa eang. Fel hanesydd, mae Luc yn hollol wrthrychol – yn dangos llwyddiant a methiant yr eglwys gynnar, cydweithio ac anghytuno yr apostolion e.e. Paul a Barnabas yn ffraeo, rhai pobl yn derbyn ac eraill yn gwrthod yr efengyl.
Mae’r llyfr yn rhoi i ni hanes Paul, a hefyd cefndir ei lythyrau.

Catrin Roberts

0