Amos

Pwy?

Roedd Amos yn ffermwr defaid ac yn arddwr coed ffigys yn Tecoa, tref fach tua 12 milltir o Jerwsalem a 6 milltir i’r de o Fethlehem. Cafodd ei alw gan Dduw i weithio fel proffwyd (darllena’r adran ar Y Proffwydi os am ddysgu mwy). Cafodd Amos neges arbennig gan Dduw ar gyfer Israel, teyrnas y gogledd, er ei fod hefyd yn siarad gyda Jwda, teyrnas y de, a gwledydd eraill.  Mae’n debyg fod Amos yn  cyhoeddi neges Duw yn Bethel, prif ganolfan grefyddol Israel.

 

Pryd?

Wyddon ni ddim pryd cafodd geiriau a gweledigaethau  Amos eu hysgrifennu i lawr, ond mae arbenigwyr yn credu ei fod e’n gwasanaethu Duw fel proffwyd tua 760 – 750 cyn Crist.

 

Pam?

Roedd Duw am i bobl Israel a phobl Jwda ddeall ei fod yn colli amynedd gyda’u ffordd nhw o fyw. Yn y cyfnod hwn roedd y ddwy deyrnas yn llwyddo yn economaidd, yn wleidyddol ac yn filitaraidd - yn ennill tiroedd, ac yn mynd yn fwy cyfoethog.  Ond roedden nhw hefyd:-

  • Yn addoli duwiau paganaidd
  • Yn gyfoethog ac yn gyfforddus  
  • Yn cymryd mantais o bobl dlawd ac yn gwrthod eu  helpu
  • Yn byw bywydau anfoesol
  • Yn caniatáu llygredd mewn busnes, bywyd cyhoeddus ac yn y llysoedd.
  • Yn cynnal defodau crefyddol, ond yn anwybyddu Duw ar yr un pryd.

 

Felly cafodd Amos ei anfon i ddweud bod barn ar y ffordd a bod Duw’n mynd i ddefnyddio’r Asyriaid, cenedl baganaidd,  i’w cosbi. Byddai’r Asyriaid yn ymosod ar Israel, concro’r deyrnas a gorfodi pobl Israel i adael eu gwlad. Digwyddodd hyn tua’r flwyddyn 722 cyn Crist. Diflannodd teyrnas y gogledd gyda’r bobl yn cael eu caethgludo (cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a symud i wlad arall) i Asyria. Ond ar ddiwedd y broffwydoliaeth mae neges o obaith wrth i Dduw addo dyfodol gwell i’w bobl wedi iddyn nhw droi’n ôl ato, ac ufuddhau iddo. Mae’r proffwyd yn pwysleisio’r angen i’r bobl sicrhau bod, 'cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu,' (Amos 5.24).

 

0
tudalen blaen: 
0