Barnwyr

Pwy?

Samuel ydy awdur llyfr y Barnwyr yn ôl traddodiad, ond wyddon ni ddim i sicrwydd pwy ysgrifennodd yr hanes.

 

Pryd?

Mae ysgolheigion yn awgrymu bod y llyfr wedi ei ysgrifennu yn ystod  cyfnod y brenin Saul neu’r brenin Dafydd (tua 1050 - 1000 cyn Crist) ond allwn ni ddim rhoi dyddiad pendant.

 

Pam?

Mae’r awdur yn edrych yn ôl i’r amser pan oedd dim brenin gan y genedl, pan oedd pobl oedd yn cael eu galw’n farnwyr yn arwain y bobl. Nid barnwyr mewn llys barn oedd y bobl yma, ond pobl neu arwyr oedd yn gweithredu er mwyn arwain y bobl a’u hachub o ymosodiadau cenhedloedd eraill. Yn y llyfr fe gawn ni hanes 12 barnwr ond mae’r awdur yn rhoi mwy o fanylion i ni am Othniel, Ehwd, Debora/Barac, Gideon, Jefftha a Samson na’r gweddill. Dydy’r barnwyr hyn ddim yn bobl berffaith, a dydy’r awdur ddim yn cuddio eu diffygion, ond eto mae Duw’n eu defnyddio. Efallai y bydd hynny’n codi dy galon – mae Duw’n gallu defnyddio’r bobl fwyaf annisgwyl i wneud ei waith!

Samson ydy’r barnwr mwyaf enwog efallai – y dyn mawr cryf gyda’r gwallt hir, gafodd berthynas gyda merch o’r enw Delila - ond mae hanes y barnwyr eraill yn ddiddorol hefyd, ac mae yna ferch yn y rhestr hefyd!

 

Mae yna batrwm trist yn cael ei ddisgrifio yn llyfr y Barnwyr:

Israel yn troi oddi wrth Dduw ac yn addoli duwiau paganaidd → Duw yn gadael iddyn nhw ddioddef → Israel yn gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help→ Duw yn rhoi arweinydd i’w hachub  → mae popeth yn iawn am gyfnod, nes i’r arweinydd farw, a’r bobl unwaith eto yn troi i addoli duwiau paganaidd ac yn anghofio Duw a’i ddaioni………. Ac yn y blaen!

 

Mae’n ddarlun clir iawn o’n tuedd naturiol ni fel pobl i wneud pethau drwg a troi oddi wrth Dduw (pechu).

0
tudalen blaen: 
0