Esther

Pwy?

Wyddon ni ddim pwy oedd awdur llyfr Esther, ond mae’n debyg ei fod e’n Iddew oedd yn byw yn Persia. Mae’n gwybod am arferion y wlad, ac yn arbennig am lys y brenin. Mae’r llyfr yn dweud hanes Iddewes o’r enw Esther. Dyma’r stori yn fyr:-

  • Mae Esther yn cael ei dewis yn un o wragedd brenin Persia, Ahasferws.
  • Mae Mordecai, ewythr Esther, yn llwyddo i achub bywyd y brenin
  • Mae Haman, un o swyddogion llys y brenin, yn cynllwynio i gael gwared â’r Iddewon am ei fod e'n casáu Mordecai
  • Mae Esther, trwy anogaeth Mordecai, yn dangos dewrder mawr ac yn trefnu cinio i’r brenin a Haman er mwyn drysu’r cynllwyn.
  • Mae’r brenin yn cofio bod Mordecai wedi achub ei fywyd.
  • Mae Esther yn gofyn i’r brenin arbed ei phobl.
  • Mae Haman yn cael ei grogi, ac mae’r Iddewon yn cynnal diwrnod o hwyl a gwledda er mwyn dathlu eu bod nhw wedi eu hachub trwy ddewrder Esther.

 

Pryd?

Wyddon ni ddim pryd yn union cafodd y llyfr ei ysgrifennu – y dyddiad cynharaf fyddai tua 460 cyn Crist, yn fuan wedi’r digwyddiadau sydd yn y llyfr. Mae adnod 9.19 yn awgrymu bod yr Iddewon wedi bod yn cynnal diwrnod o wyliau i ddathlu hanes Esther ers tipyn o amser cyn ysgrifennu’r stori i lawr.

 

Pam?

Mae’r llyfr yn cofnodi pam bod yr Iddewon  yn cynnal Gŵyl Purim (sy’n cael ei dathlu ar 14eg o’r mis Iddewig Adar). Pan mae Iddewon heddiw yn dod at ei gilydd i ddathlu’r ŵyl, bydd sgrôl Esther yn cael ei ddarllen fel rhan o’r dathliadau. Wrth ddarllen y llyfr mae Iddewon pob oes yn cael gwybod sut cafodd y genedl Iddewig ei hachub trwy ddewrder Esther a Mordecai. Fe gawn ni glywed am gynllwyn i ddifa cenedl Israel – mae llawer o gynlluniau tebyg wedi bod dros y canrifoedd.

Mae rhai pobl yn feirniadol o lyfr Esther achos does dim sôn am Dduw neu am addoli ynddo.  Ond mae’r awdur yn llwyddo i ddangos llaw Duw yn yr hyn sy’n digwydd a’i ofal dros ei bobl.

 

Yr Eglwys ydy pobl Dduw heddiw, ac mae Cristnogion ar hyd a lled y byd mewn perygl oherwydd eu bod nhw’n dilyn Iesu Grist.  Mae rhai pobl am gael gwared â’r eglwys a’r ffydd Gristnogol yn union fel roedd Haman am gael gwared o’r Iddewon. Os wyt ti am ddysgu mwy am hyn, dos ar wefan y mudiad Open Doors. Mae Open Doors yn gofyn i ni weddïo dros Gristnogion sydd mewn perygl – ac mae Duw’ n ateb y gweddïau hyn ac yn amddiffyn ei bobl, yn union fel yn nyddiau Esther.

0
tudalen blaen: 
0