Exodus

Pwy?

Mae llyfrau’r Hen Destament yn hen, hen iawn, ac mae’n anodd iawn dweud yn bendant pwy ydy awdur y llyfrau.  Ond mae traddodiadau Cristnogol ac Iddewig yn enwi Moses. Mae yna gyfeiriadau yn y llyfr at Moses yn ysgrifennu e.e. 17:14, 24:/4. Mae’r Testament Newydd yn cymryd mai Moses oedd yn gyfrifol am y llyfr e.e. Marc 7.10.  Wrth ddarllen y llyfr mae’n hawdd dychmygu mai atgofion personol Moses sydd ynddo.

 

Pryd?

Mae’n amhosibl dweud yn sicr pryd cafodd Exodus ei ysgrifennu. Yn draddodiadol mae’r Exodus yn cael ei ddyddio tua 1446 cyn Crist.

 

Pam?

Ystyr exodus ydy Ymadawiad/ Gadael. Mae Exodus yn parhau stori Genesis. Ar ddiwedd Genesis mae’r Israeliaid (teulu Joseff) yn byw yn yr Aifft, ac mae’r llyfr yn disgrifio beth ddigwyddodd iddyn nhw, pam a sut wnaethon nhw adael yr Aifft. Yr Aifft ac anialwch Sinai ydy prif leoliadau’r digwyddiadau.

Mae’r llyfr yn adrodd hanes geni Israel fel cenedl a Moses ydy’r cymeriad canolog.  Mae dau brif thema i’r llyfr

  1. Hanes yr Israeliaid yn dianc o gaethiwed yr Aifft ac yn teithio tuag at y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddyn nhw
  2. Duw yn rhoi Deddfau (gan gynnwys y Deg Gorchymyn) i’w bobl, ac yn rhoi cyfarwyddiadau sut  i’w addoli (mae hyn yn cynnwys adeiladu’r Tabernacl – trwy’r Tabernacl mae Duw yn dod at ei bobl) a sut i gyflwyno aberthau ( sy’n cynnwys aberthu Oen y Pasg yn aberth dros bechod). Dyna ddarlun o beth fyddai’n digwydd yn y Testament Newydd – Duw yn dod at ei bobl yn ei fab Iesu Grist, a’r mab hwnnw, a gafodd ei alw yn Oen Duw gan Ioan Fedyddiwr (Ioan 1.29), yn cael ei aberthu dros bechod y bobl.

 

 

 

 

0
tudalen blaen: 
0