Genesis

Pwy?

Mae’n anodd ymchwilio i hanes llyfrau’r Hen Destament oherwydd bod y defnydd mor hen, ond yn ôl traddodiadau Iddewig a Christnogol Moses ydy awdur 5 llyfr cyntaf y Beibl. Ystyr y gair Genesis yn Hebraeg ydy Yn y dechreuad ac mae defnyddio geiriau cyntaf llyfr fel teitl yn hen arfer mewn llyfrau Hebraeg cynnar. Yn y Groeg ystyr y teitl ydy geni, achau neu hanes cychwyniad. Genesis ydy llyfr cyntaf y Beibl ac mae’n cyflwyno hanes dechrau’r byd, dechrau dynoliaeth a dechrau’r genedl Iddewig – ac yng nghanol hyn i gyd mae Duw.

 

Pryd?

Mae’n anodd iawn dweud pryd cafodd llyfr Genesis ei ysgrifennu. Mae rhai arbenigwyr yn meddwl bod yr ysgrifennu wedi digwydd pan oedd yr Israeliaid yn crwydro’r anialwch tua 1446 – 1406 cyn Crist.

 

Pam?

Os ydyn ni am ddeall gweddill y Beibl, mae angen i ni ddarllen Genesis.  Mae pennod 1 – 11 yn cyflwyno gwirioneddau sylfaenol i ni,

  • Bodolaeth Duw a’i berthynas gyda byd natur a phobl
  • O ble ddaethom ni
  • Pam ydyn ni yn y byd
  • Beth mae Duw yn ei ddisgwyl gennon ni

 

Mae rhai o hyd yn gwneud hwyl am ben dechrau Genesis ac yn dweud mai myth ydy hanes y Creu, ond mae’r penodau hyn yn cyfeirio at ddigwyddiadau hanesyddol – hynny ydy

  • Fe gafodd y byd ei greu
  • Mae pobl yn cael perthynas gyda Duw
  • Mae rhywbeth wedi digwydd i ddifetha’r byd, ac mae Genesis yn egluro beth ddigwyddodd – fe wnaeth pobl bechu,  gwrthryfela yn erbyn Duw a gwrthod ufuddhau iddo.

 

Mae pennod 12 ymlaen yn canolbwyntio ar hanes  Abraham  a’i ddisgynyddion. Mae Duw yn mynd i achub ei greadigaeth a gwneud pethau’n iawn eto. Mae’n dewis gwneud hyn  trwy’r genedl sy’n datblygu o deulu Abraham. Hanes Duw yn gweithredu ei achubiaeth a gawn ni yng ngweddill y Beibl. Mae’r achubiaeth yn cyrraedd penllanw ym mywyd, aberth ac atgyfodiad Iesu Grist, un o ddisgynyddion Abraham.   

 

 

0
tudalen blaen: 
0