Habacuc

Pwy?

Wyddon ni ddim llawer am Habacuc, ond mae un peth yn sicr - roedd e’n ddyn llawn ffydd.

 

Pryd?

Mae’n debyg fod Habacuc yn cyhoeddi neges Duw tua 600 mlynedd cyn Crist (clicia yma i ddarllena’r adran ar y Proffwydi os wyt ti am ddysgu mwy).

 

Pam?

Er bod Habacuc  yn credu yn Nuw, mae yna bethau sy’n ei boeni – er enghraifft pam bod pobl ddrwg y byd yn llwyddo heb gael cosb, ond bod llawer o bobl dda yn dioddef.

Mae dwy bennod gyntaf y llyfr yn cyflwyno deialog rhwng y Habacuc a Duw. Mae Habacuc yn siarad yn naturiol gyda Duw gan ofyn cwestiynau iddo – pam hyn, pam y llall.  Mae’n derbyn ateb i’w gwestiynau – mae Duw’n paratoi i wneud rhywbeth am ddrygioni’r byd. Fe fydd yn cosbi pobl am eu drygioni.

Mae pennod 3 yn ddatganiad prydferth o ffydd ac mae’n debyg fod y bennod hon yn cael ei defnyddio gan Iddewon fel Salm i’w chanu’n gyhoeddus. Felly nid rhywbeth personol i Habacuc  yn unig ydy’r profiadau hyn, ond mae Habacuc yn cynrychioli llais pobl dduwiol  sy’n cael trafferth i ddeall ffyrdd Duw, ac sy’n dysgu bod yn rhaid trystio yng ngwaith a chynlluniau Duw.

 

 

0
tudalen blaen: 
0