Hebreaid

Pwy ydy’r awdur?
Dyn ni ddim yn gwybod pwy ydy awdur y llythyr hwn, a dyn ni ddim yn gwybod at bwy oedd o’n ysgrifennu. Teitl gafodd ei ddefnyddio gyntaf yn yr ail ganrif ydy’r Llythyr at yr Hebreaid. Does dim cyfarchiad ar y dechrau. Ond mae’n amlwg fod y bobl fyddai’n darllen y llythyr yn ei adnabod. Mae’r awdur yn berson pwysig yn yr eglwys, yn Gristion Hebreig deallus ac yn gwybod yr Hen Destament yn dda iawn. Mae 2:3 yn dweud mai trwy bobl eraill y clywodd yr awdur newyddion da’r efengyl, nid gan Iesu ei hun. Mae’n ysgrifennu mewn Groeg gloyw, ac mae’r gwaith yn darllen mwy fel pregeth na llythyr. Mae o’n lythyr trefnus iawn, ac yn llawn rhethreg. Ond eto, mae’n amlwg bod yr awdur yn ysgrifennu at bobl mewn eglwys neu eglwysi arbennig.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant ond mae ysgolheigion yn awgrymu’r 60au hwyr yn y ganrif gyntaf. Mae’r llythyr yn llawn o sôn am system aberthu’r deml yn Jerwsalem a gwaith offeiriaid ac archoffeiriad. Cafodd y deml ei dinistrio gan y Rhufeiniaid yn y flwyddyn 70 O.C., a daeth y system aberthu i ben. Felly mae’n debyg fod y llythyr wedi cael ei ysgrifennu cyn hyn.

Pam?
Mae’r awdur yn ysgrifennu at grŵp o Gristnogion ble roedd y rhan fwya yn Iddewon. Roedden nhw’n gwybod yr Hen Destament yn dda, ac yn Gristnogion ers peth amser. Maen nhw wedi wynebu erledigaeth, ond erbyn hyn yn dechrau colli eu brwdfrydedd cyntaf yn y ffydd. Maen nhw wedi digalonni a dechrau mynd yn ddiog yn ysbrydol, gyda rhai yn peidio dod i addoli. Mae’r awdur yn teimlo eu bod nhw’n cael eu temtio i droi nôl at Iddewiaeth, felly mae’n ysgrifennu atyn nhw er mwyn dangos cymaint yn well ydy Iesu a’r ffydd Gristnogol nag unrhyw beth arall yn y gorffennol, y presennol na’r dyfodol.
Mae rhai wedi galw’r llythyr yn “llyfr y rhagoriaethau” oherwydd fod y gair Groeg am rhagori (bod yn well na rhywbeth arall) yn cael ei ddefnyddio cymaint o weithiau. Mae popeth mae pobl ei angen yn Iesu – mae o’n dangos Duw i ni, a fo ydy’r ffordd i ni ddod at Dduw. Iesu ydy ateb holl addewidion yr Hen Destament. Mae o’n well na’r proffwydi, yr angylion, Moses a’r offeiriaid. I’r awdur, mae Cristnogaeth yn cymryd lle pob ffydd arall, gan gynnwys yr hen ffydd Iddewig, a does dim ffydd arall yn mynd i gymryd ei le i’r dyfodol. Mae Duw wedi gwneud popeth sydd ei angen i achub pobl am byth yn Iesu Grist. Mae’r awdur yn disgrifio’r hen system aberthu a’r hen offeiriadaeth yn y deml, ac yn dweud mai Iesu ydy’r offeiriad perffaith yn rhoi’r aberth perffaith.
Mae pwyslais mawr ar ffydd yn y llythyr hefyd – nid fel profiad cyfriniol, ond fel ffordd o fyw, ymarferol. Dyn ni’n darllen am beth wnaeth rhai o gymeriadau enwog yr Hen Destament, a’r hyn wnaethon nhw am fod ganddyn nhw ffydd. Mae’n atgoffa’r Cristnogion o’r achubiaeth a’r bywyd sydd i’w gael yn unig trwy’r Meseia, ac am y bendithion mawr sydd i bawb sy’n credu yn Iesu. Rhaid derbyn bod pawb sy’n dilyn Iesu yn mynd i ddioddef, achos dyna ddigwyddodd i Iesu ei hun. Mae yna rybudd hefyd – bod unrhyw un sy’n troi cefn ar y ffydd yn mynd i gael ei farnu gan Dduw.

Catrin Roberts