Iago

Pwy ydy’r awdur?
Iago, brawd Iesu, gafodd ei eni i Joseff a Mair ar ôl geni Iesu ydy awdur y llythyr hwn. Yn Mathew 13:55 mae’n cael ei enwi gyda’r tri brawd arall – Joseff, Simon a Jwdas (awdur llythyr Jwdas). Dim ond ar ôl yr atgyfodiad daeth Iago i gredu yn Iesu, pan welodd o y Meseia Iesu yn fyw (1 Corinthiaid 15:7). Cyn hynny roedd o’n meddwl bod ei frawd yn wallgo (Marc 3:21; Ioan 7:5). Daeth Iago yn arweinydd yn yr eglwys yn Jerwsalem. Fo oedd yn llywyddu pan ddaeth y Cristnogion at ei gilydd yno (Actau 15) i drafod oedd angen i Gristnogion o genhedloedd eraill ufuddhau i holl gyfraith Moses, yn arbennig cyfraith enwaediad. Mae traddodiad yn dweud bod Iago wedi cael ei labyddio (taflu cerrig at berson) i farwolaeth tua 62 O.C.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae’r rhan fwyaf o ysgolheigion yn credu bod llythyr Iago wedi ei ysgrifennu rywbryd rhwng 40 a 50 O.C. Mae’r llythyr yn rhoi darlun cynnar o’r eglwys Gristnogol sy’n Iddewig iawn o hyd ac sy’n dal i ddefnyddio’r gair synagog i ddisgrifio man addoli’r eglwys.

Pam?
Dyn ni ddim yn gwybod at bwy ysgrifennodd Iago y llythyr hwn. Mae o’n enwi “y Cristnogion Iddewig sydd wedi eu gwasgaru drwy’r holl wledydd” ar ddechrau’r llythyr. Mae’r llythyr yn fwy cyffredinol na rhai o lythyrau eraill y Testament Newydd, llythyr ymarferol yn sôn am y bywyd Cristnogol. Roedd Paul a’r apostolion eraill yn pwysleisio wrth bregethu mai ffydd yn Iesu oedd yn dod â pherson i berthynas newydd hefo Duw, nid gwneud rhai pethau fel ufuddhau i ddeddfau a chymryd rhan mewn defodau. Roedd rhai Cristnogion wedi camddeall hyn, ac wedi dechrau meddwl “Os nad ydy gwneud pethau da yn achub, yna does dim angen i ni wneud pethau da o gwbl. Ffydd sy’n bwysig, a dim byd arall.” Felly ysgrifennodd Iago ei lythyr er mwyn dangos bod y pethau rydyn ni’n wneud yn bwysig – bod ymddygiad person yn dangos pa mor gywir a dwfn ydy ei ffydd. Mae credu yn Iesu yn golygu byw bywyd gwahanol. Rhaid i ni feddwl amdanon ni ein hunain, ac am eraill, ac am fywyd mewn ffordd hollol newydd. Mae Iago yn pwysleisio dyletswyddau bod yn ddisgybl. Os ydyn ni’n gredinwyr, rhaid i ni ddangos hynny trwy y pethau da rydyn ni’n gwneud, a’n ffordd ni o fyw.
Nid tract efengylu ydy’r llythyr hwn gan Iago, ond llythyr yn dweud bod rhaid i bawb sy’n derbyn yr efengyl fyw y bywyd Cristnogol. Mae hefyd yn rhoi esiamplau ymarferol o sut mae gwneud hynny.

Catrin Roberts