Luc

Pwy ydy’r awdur?
Mae tystiolaeth y Testament Newydd yn gwneud i ni feddwl mai Luc, y meddyg annwyl (Colosiaid 4:14) ydy awdur yr Efengyl hon. Cenedl-ddyn (rhywun sy ddim yn Iddew) oedd Luc mae’n debyg, yr unig un o awduron y Testament Newydd oedd ddim yn Iddew. Mae’n ysgrifennu mewn Groeg graenus iawn sy’n dangos ei fod o’n ddyn dysgedig. Roedd o hefyd yn gyfarwydd hefo diwylliant a thraddodiadau Groegaidd ac Iddewig.
Daeth Luc yn ffrind i Paul a roedd o gyda Paul yr ail a’r drydedd daith genhadol i wlad Groeg a Twrci (Actau 16 - 20), ac ar y daith i Jerwsalem (Actau 21). Aeth Luc gyda Paul ar ei daith olaf i Rufain hefyd (Actau 27-28), pan oedd Paul i ymddangos gerbron yr Uchel Lys yno. Roedd yn dal hefo fo pan oedd Paul yn y carchar eto ac yn disgwyl cael ei ddienyddio (2 Tim 4:6,11). Luc hefyd ysgrifennodd Actau’r Apostolion. Felly mae’n dweud hanes bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn Efengyl Luc, ac wedyn yn egluro beth ddigwyddodd i ddilynwyr Iesu yn llyfr yr Actau.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i’r Efengylau. Os ydyn ni’n cytuno gyda’r ysgolheigion sy’n meddwl bod Luc wedi defnyddio Efengyl Marc fel ffynhonnell, rhaid rhoi dyddiad diweddarach na’r efengyl honno. Mae’r ysgolheigion hyn yn meddwl fod Luc hefyd, fel Mathew, yn defnyddio deunydd ffynhonnell Q ( sef casgliad pwysig cynnar Aramaeg o ddywediadau a braslun o fywyd Iesu gafodd ei gyfieithu i’r Roeg). Yna bod ganddo hefyd ddeunydd arbennig ei hun - ffynhonnell L (Gwybodaeth gasglodd Luc wrth wrando ar atgofion aelodau hŷn yr eglwys yn Jerwsalem efallai?) Ond yn ddiweddar mae grŵp o ysgolheigion o Jerwsalem wedi dod i’r casgliad mai efengyl Luc oedd y cynharaf.
Mae mwyafrif yr ysgolheigion yn awgrymu dyddiad rywle rhwng 60 ac 80 O.C. Os cafodd ei ysgrifennu cyn llyfr yr Actau (gw.Actau 1:1), byddai dyddiad tua 60-65 O.C. yn debygol. Efallai bod Luc wedi ysgrifennu’r llyfr yn Rhufain, neu o bosib Achaia, ond does dim posib bod yn bendant.

Pam?
O’r holl efengylau, Luc sy’n rhoi’r darlun llawnaf i ni o fywyd Iesu. Dyna ydy ei fwriad – cyflwyno’r ffeithiau cywir am Iesu i ddyn o’r enw Theoffilus (swyddog uchel yn y fyddin Rufeinig o bosib). Efengyl Luc ydy cyfrol gyntaf hanes Iesu a’i ddilynwyr – llyfr Actau’r Apostolion ydy’r ail gyfrol. Mae Luc yn ysgrifennu fel hanesydd, yn rhoi manylion hanesyddol (sy’n cael eu cadarnhau gan ddogfennau hanesyddol a darganfyddiadau archeolegol erbyn hyn). Mae o am ddangos mai ffeithiau gwir sydd y tu cefn i’r ffydd Gristnogol, nid dychymyg. Felly mae o’n rhoi sylfaen hanesyddol gadarn i ffydd ei ddarllenwyr. Ond mae Luc hefyd yn ddiwinydd sy’n cyflwyno Iesu fel yr un sy’n achub (Luc 19:10), nid Iddewon yn unig, ond pobl o bob cenedl. Mae’n rhoi sylw arbennig i bobl dlawd, merched, ‘pechaduriaid’, plant, Samariaid, a’r rhai sy’n cael eu gwrthod. Mae o’n dangos fod Duw yn trugarhau wrth bawb, a bod Iesu wedi dod i gynnig achubiaeth Duw i bawb sy’n barod i’w dderbyn i’w bywyd.

Catrin Roberts