Sechareia

Pwy?

Roedd Sechareia yn broffwyd ac yn offeiriad. (Clicia yma i ddarllena mwy am Y Proffwydi os wyt ti am ddysgu mwy amdanyn nhw).  Roedd yn dod o deulu offeiriadol ac mae ei daid/dad-cu, Ido, yn cael ei enwi yn Nehemeia 12.4 fel un o’r offeiriad ddaeth yn ôl i Jerwsalem ar ôl i’r Iddewon gael eu concro gan fyddin Babilon a’u gorfodi i fyw yng ngwlad Babilon am gyfnod hir mewn caethglud. Mae’n debyg fod tad Sechareia wedi marw’n ifanc achos dydy e ddim yn cael ei enwi. Cafodd Sechareia ei eni ym Mabilon (yn y gaethglud) ac fe aeth yn ôl i Jwda tua 538 cyn Crist. Y peth cyntaf wnaeth yr Iddewon wedi cyrraedd Jerwsalem oedd dechrau ail adeiladu’r Deml oedd wedi ei dinistrio yn 586 cyn Crist gan fyddin Babilon.

 

Pryd?

Mae arbenigwyr yn credu bod Sechareia yn byw tua 520 o flynyddoedd cyn Crist

 

Pam?

Ystyr Sechareia ydy, 'Mae Duw’n cofio' – ac mae Sechareia’n dangos fod Duw yn cofio ei bobl a’r cyfamod (cytundeb) wnaeth e gyda nhw i ofalu amdanyn nhw.

Gweithiodd Sechareia yn agos iawn gyda Haggai, proffwyd arall yn Jerwsalem, i annog yr Iddewon i orffen y gwaith o ail adeiladu’r deml.  Os wyt ti am ddarllen yr hanes, rhaid i ti droi i lyfr Esra,  yn arbennig pennod 3- 6. Roedd yna bobl oedd ddim am weld y Deml yn cael ei hadeiladu eto, ond fe wnaeth Haggai a Sechareia broffwydo yn enw Duw, ac fe gafodd eu geiriau ddylanwad mawr ar y bobl. Dechreuodd y gwaith o ddifri, ac roedd Sechareia a Haggai yn cefnogi’r bobl wrth eu hatgoffa o ffyddlondeb ac addewidion Duw.

 

Mae proffwydoliaeth Sechareia yn llawn gweledigaethau am y dyfodol – pobl Dduw yn ôl yn eu gwlad, y Deml yn cael ei defnyddio eto ar gyfer addoli. Mae hefyd yn cyfeirio at achubiaeth sydd i ddod trwy’r Meseia – mae’n cyflwyno’r Meseia fel brenin, carreg, rhywun sy’n cael ei werthu am 30 darn o arian, bugail sy’n cael ei daro, Blaguryn, a Gwaredwr a Rheolwr Israel – darluniau sy’n gyfarwydd wrth i ni feddwl am fywyd Iesu Grist.

 

Cafodd un o emynwyr enwocaf Cymru ei hysbrydoli i ysgrifennu emyn wedi darllen gweledigaeth gyntaf Sechareia (1.8) lle mae’n gweld dyn ar geffyl mewn llwyni myrtwydd. Dyma sut wnaeth Ann Griffiths ddefnyddio’r darlun yn ei hemyn

"Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd

Gwrthrych teilwng o’m holl fryd;

Er mai o ran yr wy’n adnabod

Ei fod uwchlaw gwrthrychau’r byd:

Henffych fore

Y caf ei weled fe y mae."

 

 

0
tudalen blaen: 
0