Am beibl.net - Efengyl Marc

Efengyl Marc

Cyhoeddwyd gan Gymdeithas y Beibl (Awst 2011) - Cymdeithas y Beibl - Efengyl Marc

‘Ei gryfder yw ei fod yn rhoi’r Beibl, sydd i raddau helaeth an annealladwy i lawer, o fewn cyrraedd ifanc a hen mewn iaith gyfoes. Maent yn gallu ei ddarllen, eiddeall, a gwerthfawrogi yr hyn y mae yn ei ddweud.’ Parchg Ddr Geraint Tudur, BD Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

‘Dyma’r unig gyfieithiad o’i fath yn yr Iaith Gymraeg, yn ffyddlon i’r testun, yn hawdd i’w ddeall ac yn adnodd eithriadol o werthfawr, yn enwedig gan blant ac ieuenctid sydd yn cael y cyfieithiadau traddodiadol yn ddieithr o ran iaith.’ Parchg W Bryn Williams, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

‘Dwi'n meddwl bod beibl.net yn grêt. Mae’n rhoi gwirioneddau'r Beibl yn syml iawn, ac yn hynod o rhwydd i’w ddarllen.’ Aelod o Glwb Ieuenctid Cristnogol

‘Mae'n ffantastig gallu darllen y Gair mewn Cymraeg medra'i ddallt!’ Mari Williams

‘Ymateb i gais gan nifer o bobl, mudiadau ac eglwysi a fu’n pwyso ar gig, a Chymdeithas y Beibl i gyhoeddi beibl.net rhyngddynt yw’r fersiwn yma o efengyl Marc. Mae’r iaith yn syml ac yn uniongyrchol ac yn gosod y newyddion da o fewn cyrraedd cenhedlaeth newydd sbon.’ Parch Ddr Watcyn James Cymdeithas y Beibl

‘Rwy’n croesawu’r fenter hon. Bydd yn adnodd gwych i bawb sydd yn gweithio gyda phlant, naill ai yn ein hysgolion neu mewn clybiau ieuenctid’ Y Gwir Barchedig Andrew John, Esgob Bangor