Am beibl.net - Iaith Gynhwysol

Iaith Gynhwysol

Mae'r defnydd o iaith yn datblygu a newid yn gyson, ac mae ystyr geiriau yn gallu newid hefyd. Gall defnyddio geiriau a oedd yn dderbyniol ac yn ddealladwy ar un adeg fod yn gwbl annerbyniol a chamarweiniol yn y cyd-destun cyfoes. Mae hyn i'w weld yn glir pan ystyriwn holl fater 'iaith gynhwysol'. Er enghraifft, mae wedi troi'n fwyfwy annerbyniol i ddefnyddio'r gair 'dyn / dynion' ac eithrio pan olygir y rhyw gwrywaidd yn unig. Yn wir, i'r genhedlaeth ifanc fe all fod yn ddryslyd a chamarweiniol. Er bod dyn/dynion wedi ei ddefnyddio yn y Gymraeg i gyfeirio at bobl o'r ddau ryw rhaid cydnabod mai nid dyna mae'r genhedlaeth ifanc yn ei 'glywed' heddiw.

Mae hyn yn bwysig iawn wrth i ni ystyried y defnydd o iaith yn y Beibl. Mae'n amheus gen i a yw bellach yn briodol i ddefnyddio'r gair dyn neu gŵr mewn adnodau fel y canlynol:

"...a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd." - Ioan 1:4 (Gr. anthropon)
"...y gwir oleuni, sy'n goleuo pob dyn ..." - Ioan 1:9 (Gr. anthropon)
"... oni chaiff dyn ei eni o'r newydd ..." - Ioan 3:3 (Gr. tis)
"..dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i ddyn gael bwyta.."- Io 6:50 (Gr. tis)
"Y dyn sy'n credu ynof fi ..." - Ioan 7:38 (Gr. ho pisteon)
"Nid ar fara yn unig y bydd dyn fyw," Mathew 4:4 (Gr. anthropos)
"Pa elw a gaiff dyn o ennill yr holl fyd ..." Marc 8:36 (Gr. anthropon)
"Ein dadl yw y cyfiawnheir dyn trwy gyfrwng ffydd ..." - Rhuf 3:28 (Gr. anthropon)
"Bydded i ddyn ei holi ei hunan, ac felly bwyta..." - 1 Cor 11:28 (Gr. anthropos)
".. ac yn ymddwyn yn ôl safonau dyn?"-1 Cor 3:3 (Gr. anthropon)

Nid codi cwestiwn ynglŷn â phriodoldeb y testun gwreiddiol a wneir yma, nac ychwaith ddadlau yn erbyn arferion a diwylliant y cyfnodau Beiblaidd. Y bwriad yn hytrach yw gofyn ydy defnyddio'r gair 'dyn' yn yr adnodau hyn yn cyfleu ystyr y gwreiddiol yn ffyddlon yn iaith ein dyddiau ni. Tra'n dangos parch at y diwylliant patriarchaidd a adlewyrchir yn y cyd-destun gwreiddiol (a'i gadw yn yr aralleiriad lle mae galw am hynny), rhaid cydnabod fod i'r eirfa wreiddiol yn aml iawn ystyr gynhwysol, a cheisiwyd mynegi hynny'n glir yn yr aralleiriad trwy ddefnyddio geiriau sy'n cyfleu yr ystyr gynhwysol hwnnw heddiw.