Am beibl.net - Iaith Lafar

Iaith lafar
Gelwir hwn yn 'aralleiriad' am mai gwaith unigolun ydy e'n bennaf, a'r nod ydy ceisio mynegi ystyr y gwreiddiol mewn iaith sy'n ddealladwy i 'bobl ar y stryd'. Felly ceiswyd osgoi defnyddio geiriau sydd ddim ond yn gyfarwydd i bobl sydd a chefndir capel neu eglwys.

Mae'r aralleiriad wedi ei anelu yn bennaf at bobl ifanc a dysgwyr y Gymraeg (sydd wedi cwblhau cwrs Wlpan). Y gobaith ydy y gall fod yn 'bont' i helpu pobl ifanc (gan gynnwys rhai sydd heb gefndir eglwysig) i ddechrau deall beth ydy neges llyfrau'r Testament Newydd.

Gobeithiwn y bydd yn cael ei dderbyn fel adnodd addysgol, ac yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion yn ogystal ag eglwysi, fel 'Testament Newydd hawdd i'w ddeall'. Maes o law, bwriedir cynnwys pob math o erthyglau eraill ar y Wefan. Erthyglau yn cyflwyno llyfrau'r Testament Newydd a'u cefndir, peth o neges y ffydd Gristnogol, ac amrywiaeth fawr o adnoddau eraill. Ond testun yr aralleiriad fydd 'asgwrn cefn' y Wefan.

Ein gobaith yw y bydd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn yr eglwysi, yn arbennig yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.

Ysgrifennwyd y Testament Newydd yn yr iaith Roeg, ond nid Groeg clasurol. Iaith 'bob dydd' ydy Groeg y Testament Newydd, ac ymron yn ddieithriad defnyddiodd yr awduron eiriau oedd yn gyfarwydd i'r bobl gyffredin oedd yn siarad yr iaith.

Ceisiwyd defnyddio iaith 'bob dydd' yn yr aralleiriad hwn, ac felly mae llawer o eiriau a phriod-dduliau sy'n gyfarwydd i bobl sy'n mynychu capel ac eglwys wedi diflannu. Mae rhai eithriadau i'r rheol hon, a hynny'n bennaf oherwydd na fyddai defnyddio geiriau gwahanol yn helpu'r dallenydd ryw lawer e.e. dewiswyd cadw 'Meseia' neu 'Crist' yn hytrach na defnyddio 'Iesu yr Eneiniog' neu ryw eiriad tebyg.