Yn Genesis mae Duw yn creu y byd yn dda, ond mae’r bobl gafodd eu creu ganddo yn anufudd iddo. Maen nhw’n gwneud drwg ac yn mynd o ddrwg i waeth. Yna cawn hanes enwog Arch Noa, a dechrau newydd gyda Duw yn galw dyn o’r enw Abram (newidiodd Duw ei enw i Abraham yn nes ymlaen). Cawn hanesion Duw ar waith ym mywydau Abraham, ei fab Isaac, ei ŵyr Jacob, ac ym mywyd un o feibion Jacob, sef Joseff. Mae’r llyfr yn cloi gyda Joseff yn brif weinidog yr Aifft, a’i dad, ei frodyr a’u teuluoedd wedi symud i fyw yno.
GENESIS 11
Tŵr Babel
1 Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau. 2 Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia Ref ac yn setlo yno. 3 Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi'u tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.) 4 “Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.” 5 A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu. 6 Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. 7 Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.” 8 Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas. 9 Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu Ref ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd.O Shem i Abram
(1 Cronicl 1:24-27)
10 Dyma hanes teulu Shem:- Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni. (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)