Cymorth - Darllen ac Astudio

Gallwch ddarllen unrhyw ran o’r Testament Newydd, ac mae adnoddau yma i’ch helpu i’w ddeall.  Mae rhai o lyfrau'r Hen Destament ar gael hefyd.

Cliciwch ar unrhyw lyfr. Dewiswch unrhyw bennod. Neu chwiliwch am unrhyw air neu gymal.

• Mae ‘Pwy? Pryd? Pam?’ yn rhannu peth o gefndir pob llyfr – Pwy ydy’r awdur? Pryd cafodd y llyfr ei ysgrifennu? a Pam cafodd ei ysgrifennu? (beth ydy’r prif themâu ynddo)

• Mae’r ‘Nodiadau’ yn rhoi crynodeb o beth sydd yn yr adran arbennig yna o’r llyfr dych chi’n ei ddarllen.

• Mae’r ‘Sylwadau’ yn rhannu gwybodaeth am gefndir rhywbeth sydd yn yr adnod, neu yn esbonio pam mae beibl.net yn ei chyfieithu fel y mae.

• Croesgyfeiriadau: Ble mae dyfyniad o'r Hen Destament yn y Testament Newydd, daliwch y cyrchwr uwch ben symbol y croesgyfeiriad a bydd bocs yn ymddangos i ddweud o ble yn yr Hen Destament mae'r dyfyniad yn dod

• Troednodiadau: Daliwch y cyrchwr uwch ben symbol y troednodyn, a bydd bocs yn ymddangos gyda gwybodaeth ychwanegol.

 

Yn ôl i Cymorth