1 Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi afon Iorddonen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua:
2 “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth.
3 Dwed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely'r afon, o'r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â'r cerrig, a'u gosod nhw i lawr lle byddwch chi'n gwersylla heno.”
4 Dyma Josua'n galw'r dynion oedd wedi'u penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth),
5 a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – un garreg ar gyfer pob llwyth.
6 Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’,
7 gallwch ddweud wrthyn nhw fod afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”
8 Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth). A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.
9 Gosododd Josua hefyd un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch wedi bod yn sefyll. Mae'r cerrig yno hyd heddiw.
10 Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Josua wedi'i gyflawni. Yn y cyfamser, roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.
11 Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn eu gwylio.
12 Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.
13 Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho.
14 Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.
15 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua,
16 “Dwed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”
17 Felly dyma Josua'n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely'r afon!” meddai wrthyn nhw.
18 Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen.
19 Roedd hi'r degfed o'r mis cyntaf Ref pan groesodd y bobl afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i'r dwyrain o Jericho.
20 Dyna lle gwnaeth Josua osod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi'u cymryd o afon Iorddonen.
21 A dyma fe'n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w tadau, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’
22 esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma lle wnaeth pobl Israel groesi afon Iorddonen ar dir sych.’
23 Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o'n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel roedd wedi sychu'r Môr Coch Ref pan oedden ni'n croesi hwnnw.
24 Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a'i addoli bob amser.”
Josua gafodd ei ddewis gan Dduw i arwain pobl Israel drwy’r Afon Iorddonen i goncro’r tir roedd e wedi ei addo iddyn nhw. Roedd Duw ei hun yn eu harwain ac yn rhoi llwyddiant iddyn nhw pan oedden nhw’n ufudd iddo. Ond mae un neu ddau o hanesion yn y llyfr lle roedden nhw’n anufudd ac yn gweithredu ar eu liwt eu hunain, a dyna pryd roedd pethau’n mynd o chwith. Roedd Duw wedi gorchymyn fod y paganiaid yn Canaan i gael eu difa’n llwyr am eu drygioni. Doedd e ddim am i’w bobl ddechrau ymddwyn yr un fath â nhw, ac addoli eilun-dduwiau ffals. Mae hanner cynta’r llyfr yn son am yr ymgyrchoedd milwrol, a’r ail hanner yn dweud sut roedd y tir i gael ei rannu rhwng y gwahanol lwythau (er nad oedd y tir i gyd wedi ei goncro eto). Mae llyfr Josua yn cloi gyda’r bobl yn ymrwymo i fod yn ffyddlon i Dduw.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Mae traddodiad Iddewig yn enwi Josua ei hun fel awdur y llyfr (ar wahân i’r adran olaf sy’n disgrifio marwolaeth a chladdu Josua), ond mae’r llyfr mor hen mae’n amhosib i ni wybod yn iawn pwy oedd yr awdur. Mae’r disgrifiadau a’r wybodaeth o fewn y llyfr yn fanwl, ac mae gwaith ymchwil archeolegol wedi cadarnhau llawer o’r cynnwys.
Cafodd Josua ei eni yn yr Aifft pan oedd yr Israeliaid yn gaeth yno, ac fe ddaeth yn brif gynorthwywr Moses yn ystod yr...