Roedd Eseia yn proffwydo o tua 740 i 700 C.C. Roedd yn amlwg yn dod o deulu dylanwadol, gan ei fod yn mynd yn ôl ac ymlaen i balas y brenin yn Jerwsalem. Cafodd ei alw gan Dduw i fod yn broffwyd mewn gweledigaeth ryfeddol pan oedd yn y deml (Eseia 6). Roedd yn cyhoeddi barn Duw ar Jerwsalem a Jwda am eu pechod, a daeth ei broffwydoliaethau yn wir ganrif yn ddiweddarach pan wnaeth byddin Babilon goncro’r wlad a dinistrio Jerwsalem. Ond mae yma hefyd broffwydoliaethau rhyfeddol o obaith. Mae rhai pobl yn galw Eseia “y bumed efengyl” gan fod rhai adrannau o’r broffwydoliaeth yn amlwg wedi eu cyflawni yng ngenedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu saith canrif yn ddiweddarach. Mae rhan olaf y llyfr yn broffwydoliaethau am Dduw yn adfer Israel, yn achub ei bobl, ac yn sefydlu teyrnas dragwyddol.
ESEIA 64
1 O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr,
nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di –
2 byddai fel tân yn llosgi brigau sych,
neu'n gwneud i ddŵr ferwi –
i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti
ac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!
3 Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol,
cwbl annisgwyl!
Roeddet ti'n dod i lawr
ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.
a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti,
sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.
5 Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn,
ac sy'n cofio sut un wyt ti.
Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd,
gallen ni ddal gael ein hachub!
6 Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan,
mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron.
Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen,
Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
7 Does neb yn galw ar dy enw di,
nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti.
Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni,
a gwneud i ni wynebu'n methiant!
ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni!Gwaith dy ddwylo di ydyn ni –
ni ydy'r clai a thi ydy'r crochenydd.
9 Paid gwylltio'n llwyr hefo ni,
ARGLWYDD!Paid dal dig am ein methiant am byth!
Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!
10 Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch!
Mae Seion yn anialwch,
a Jerwsalem yn adfeilion.
11 Mae'r deml gysegredig a hardd
lle roedd ein hynafiaid yn dy foli di,
wedi cael ei llosgi'n ulw.
Mae ein trysorau'n bentwr o rwbel.
12 Wyt ti'n mynd i ddal i ymatal
er gwaetha hyn i gyd,
ARGLWYDD?Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n dawel
tra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm?