Y Proffwydi

Beth ydy proffwyd?

Mae’r proffwyd yn berson sy’n cael ei alw yn bersonol gan Dduw i gyhoeddi ei neges. Trwy nerth Duw mae’n gallu gweld meddwl Duw a deall ei fwriadau ar gyfer pobl. Wrth ddelio gyda’r sefyllfa bresennol yn ei gyfnod ei hun mae’r proffwyd hefyd weithiau’n cyfeirio at ddigwyddiadau sydd eto i ddod yn y dyfodol.

 

Pwy ydy proffwydi’r Hen Destament?

Mae gwaith 16 o broffwydi wedi ei gynnwys yn adran Proffwydi yr Hen Destament

Y proffwydi mawr: Eseia, Jeremeia, Eseciel, Daniel

Y proffwydi bach: Hosea, Joel, Amos, Obadeia, Jona, Micha, Nahum, Habacuc, Seffaneia, Haggai, Sechareia, Malachi

(mae’r ansoddeiriau mawr a bach yn disgrifio maint y llyfrau – nid pwysigrwydd y proffwyd!)

 

Cafodd y proffwydi hyn eu defnyddio gan Dduw i siarad gyda’i bobl dros gyfnod o tua 300 mlynedd, o gyfnod bygythiadau Ymerodraeth yr Asyriaid, ymosodiadau Ymerodraeth Babilon, y cyfnod dreuliodd yr Israeliaid yn gaeth yng ngwlad Babilon, ac yna’r cyfnod pan ddaeth y genedl yn ôl o’r gaethglud ym Mabilon i fyw yn Jwda ac ail adeiladu Jerwsalem a’r Deml.

 

Prif negeseuon proffwydi’r Hen Destament:

  • Mae Duw yn rheoli hanes – does dim yn digwydd sydd y tu allan i reolaeth Duw.
  • Mae angen i bawb ddod i berthynas iawn gyda Duw ac mae Duw yn gwneud popeth er mwyn dod a’i bobl yn ôl ato.
  • Mae Duw yn casáu anfoesoldeb – mae am i ni fod yn ufudd iddo a byw fel mae o eisiau i ni fyw.  Dyna sydd orau i ni!
  • Mae Duw yn barnu pobl bechadurus, ond mae gobaith a chyfle newydd i bawb sy’n barod i edifarhau (dweud sori wrth Dduw a newid ei ffordd o fyw)
  • Mae Person arbennig (Y Meseia) i ddod a bydd yn sefydlu teyrnas Dduw yn y byd ac yng nghalonnau pobl. Bydd gwneud hyn yn golygu y bydd rhaid iddo ddioddef.

 

Neges i bwy oedd gan y proffwydi?

Erbyn cyfnod y proffwydi roedd yr Iddewon wedi eu rhannu yn ddwy deyrnas. Pan ddaeth y Brenin Dafydd yn frenin tua mil o flynyddoedd cyn Crist roedd yn rheoli 12 llwyth Israel o fewn un deyrnas  ond wedi marwolaeth ei fab, y Brenin Solomon, roedd yna wrthryfel, a cafodd y deyrnas ei rhannu’n ddwy.

Daeth 10 llwyth at ei gilydd i ffurfio Israel - teyrnas y gogledd. Prifddinas – Sichem, wedyn Tirtsa (am y 50 mlynedd cyntaf), ac wedyn Samaria 

Daeth 2 lwyth (Benjamin a Jwda) at ei gilydd i ffurfio Jwda - teyrnas y de. Prifddinas - Jerwsalem

 

Defnyddiodd Duw y proffwydi i gyflwyno ei neges naill ai i Israel neu i Jwda,  weithiau i Jwda ac Israel, ond roedden nhw hefyd yn proffwydo i wledydd eraill. Roedd neges Duw’n llosgi yn eu calonnau ac roedden nhw ar dân i wneud eu gwaith, ac arwain y bobl yn ôl at Dduw.