Clopas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Gŵr un o’r merched oedd yn sefyll gyda mam Iesu pan oedd Iesu ar y groes. Mair oedd ei henw hithau hefyd. Mae rhai yn meddwl mai’r un person ydy’r Clopas yma a Cleopas sy’n cyfarfod Iesu ar y ffordd i Emmaus, ond mae’n debyg mai 2 berson gwahanol ydyn nhw.
(gweler Ioan 19:25)