Iorddonen

 

• Afon hiraf gwlad Israel. Mae’n tarddu wrth droed Mynydd Hermon ar y ffin rhwng Libanus a Syria, ac yn llifo yr holl ffordd i lawr i’r Môr Marw.
• Dydy’r Iorddonen ddim yn afon fawr, ond mae’n cael lle pwysig yn y Beibl. Daeth Namaan y Syriad i ymolchi yn yr afon a chael ei iacháu o’r gwahanglwyf (2 Brenhinoedd 5).
• Yn y Testament Newydd rydyn ni’n darllen am Ioan Fedyddiwr yn bedyddio pobl yn yr afon Iorddonen.
• Mae llawer o emynwyr yn defnyddio “croesi’r Iorddonen” fel darlun o’r Cristion yn marw ac yn croesi i fywyd tragwyddol.
(gweler Mathew 3:5-13; 4:15, 25; 19:1; Marc 1:5,9; 3:8; 10:1; Luc 3:3; 4:1; Ioan 1:28; 3:26; 10:40)