Lasarus

 

Lasarus brawd i Mair a Martha. Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Roedd Iesu yn ffrindiau agos gyda’r teulu yma oedd yn byw yn Bethania. Aeth Lasarus yn sâl a marw. Anfonodd y chwiorydd am Iesu, ond erbyn iddo gyrraedd, roedd Lasarus wedi ei gladdu. Aeth Iesu at y bedd a galw ar ei ffrind i ddod allan. Daeth Lasarus allan yn fyw, a daeth llawer iawn i gredu yn Iesu wrth weld y wyrth fawr. Ond gwnaeth hyn i’r awdurdodau Iddewig benderfynu bod yn rhaid gwneud rhywbeth am Iesu, un waith ac am byth
(gweler Ioan 11:1-12:17).