1In 2:7-17

 

Mae'r gorchymyn i garu ein gilydd yn bwysig iawn i'r bywyd Cristnogol dyma beth ydy ystyr byw yn y golau.
Mae Ioan yn sicrhau ei ddarllenwyr ei fod yn hollol sicr eu bod nhw’n Gristnogion go iawn fod eu pechodau nhw wedi eu maddau, eu bod nhw’n adnabod Duw, fod neges Duw yn fyw ynddyn nhw, a’u bod nhw wedi ennill y frwydr yn erbyn Satan (‘yr un drwg’).
Mae dewis o'n blaenau ni gadael i'r byd a'i bethau gymryd ein bryd, neu garu Duw a gwneud ei ewyllys e.