1In 2:7-8

Doedd y gorchymyn i garu ddim yn newydd mewn gwirionedd (gw. Lefiticus 19:18; Mathew 22:39-40; Rhufeiniaid 13:8-10; Galatiaid 5:14), ac eto roedd yn newydd i’r graddau fod y mynegiant a’r patrwm perffaith o’r cariad hwnnw i’w weld bellach yn aberth Iesu Grist ar y groes (gw. Ioan 3:16; 13:34).