2Pedr 1:12-21

 Mae Pedr eisiau dangos fod y ffydd Gristnogol wedi ei sylfaenu ar ffeithiau a thystiolaeth llygad dystion. Nid ffrwyth dychymyg dynol ydy’r cwbl (yn wahanol i ddysgeidiaeth yr hereticiaid - cf. 2:3). [Roedd Pedr yn bresennol ar y mynydd ble digwyddodd ‘y gweddnewidiad’ – Mathew 16:28-17:8]. Ac mae'r cwbl a ddigwyddodd yn cyflawni proffwydoliaethau gafodd eu rhoi i bobl gan Dduw drwy yr Ysbryd Glân (cf.2 Timotheus 3:16).