Act 1:1-26

 Roedd Iesu Grist wedi atgyfodi o'r bedd, ac am chwe wythnos ar ôl hynny roedd e wedi bod yn dysgu'r apostolion am deyrnasiad Duw (cf. Luc 24:27, 45-47; 1 Corinthiaid 15:3-8).
Cyn esgyn yn ôl i'r nefoedd dywedodd wrthyn nhw am aros yn Jerwsalem nes i nerth yr Ysbryd Glân ddisgyn arnyn nhw wedi hynny bydden nhw’n mynd allan i'r byd i gyd i dystio amdano.
Roedd gweddi yn gwbl ganolog ym mywyd y gymdeithas o gredinwyr ar y dechrau cyntaf (cf. adn.14,24).